Part of the debate – Senedd Cymru am 6:54 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 11, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud ag adolygu penderfyniadau ac apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf. Gwelliant 29 yw'r prif a'r unig welliant yn y grŵp, ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant ac i siarad iddo. Janet Finch-Saunders.