– Senedd Cymru am 6:54 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 11, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud ag adolygu penderfyniadau ac apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf. Gwelliant 29 yw'r prif a'r unig welliant yn y grŵp, ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant ac i siarad iddo. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Fel gyda gwelliant 15, mae gwelliant 29 yn amlygu'r camau gweithredu sy'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn atal y Bil rhag achosi canlyniadau anfwriadol—gan ddarparu dyletswydd y tro hwn i adolygu penderfyniadau ac apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf. Unwaith eto, bydd fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC yn nodi pwysigrwydd hyn o safbwynt cyfansoddiadol a'r gwahaniaethau rhwng 'rhaid' a 'gall'. Gall pawb ohonom gytuno y dylai ac y byddai Gweinidogion Cymru wedi'u rhwymo gan eu dyletswyddau pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei basio. Felly, rhaid i Weinidogion ganiatáu hawl i apelio o gychwyn cyntaf y Bil, fel y byddai'r gwelliant hwn yn ei ganiatáu, yn hytrach na gwthio'r penderfyniad hwn i'r naill ochr o bosibl. Diolch.
Ie, diolch i chi, Janet. Mae is-adran 1 o adran 6 y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion wneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau neu apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf yn erbyn penderfyniadau ynghylch cymhwysedd i gael cyllid o dan y Bil. A buaswn yn dweud bod angen i'r Bil hwn gynnwys hawl i apelio, nid yn unig caniatáu i Weinidogion ystyried cynnwys un pan fydd ganddynt amser i wneud hynny. Fel deddfwrfa, nid wyf yn credu ein bod bob amser wedi meddwl beth y gallai ein hetholwyr ei wneud pe baent yn wynebu penderfyniad anghywir—camweinyddu cyfiawnder, os mynnwch, waeth pa mor fach. Yn rhy aml, rydym yn eu gadael gyda rhywbeth fel adolygiad barnwrol fel eu hunig lwybr ystyrlon ar gyfer ceisio iawn, ac nid yw hynny'n foddhaol. Ac yn absenoldeb proses apelio ystyrlon ar wyneb y Bil hwn, rwy'n credu'n gryf fod yn rhaid i ni orfodi Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r rheoliadau i lenwi'r twll hwnnw. Weinidog, efallai eich bod yn meddwl nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng pwerau a dyletswyddau mewn rhai achosion, ond mewn gwirionedd mae gosod dyletswydd arnoch i gyflwyno proses apelio drwy reoleiddio yn neges enfawr i'n hetholwyr eich bod yn poeni mewn gwirionedd beth fydd yn digwydd iddynt os aiff rhywbeth o'i le o ganlyniad i'r Bil hwn. Ac am y rheswm hwnnw—mae'n un o'r rhesymau y rhoddais fy Mil meinciau cefn fy hun i bleidlais; gwn na chafodd ei ddewis, ond—. Mae'r hyn sy'n digwydd i'n hetholwyr pan fydd pethau'n mynd o chwith yn wirioneddol bwysig, a hoffwn i chi ystyried y gwelliant hwn o ddifrif, oherwydd credaf ei fod yn ychwanegu gwerth i'r Bil.
Y Gweindog i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Gallaf sicrhau'r Aelodau ac etholwyr y bydd proses ar gyfer adolygu penderfyniadau'n cael ei gwneud mewn perthynas â chymhwysedd person i fanteisio ar y cynnig, ac y byddwn yn ceisio bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â sut y gall unigolyn herio penderfyniad a wnaed ynglŷn â'u cymhwysedd. Yn wir, ceir achos sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r cynnig yn Lloegr, ac os caiff y Bil ei basio, a bod CThEM yn dod yn gyfrwng darparu'r system ymgeisio a gwirio cymhwysedd ar gyfer y cynnig yng Nghymru, byddwn yn ceisio sicrhau bod pobl yma yng Nghymru yn gallu dilyn yr un llwybr yn union, gan gynnwys apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf.
Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar am y sicrwydd hwnnw. Os gallwch roi rhyw fath o arweiniad—. O, a gaf fi ofyn i chi roi sicrwydd arall, felly, mai dyma fyddai un o'r setiau cyntaf o reoliadau y byddwch yn eu cyflwyno, cyn belled â bod CThEM yn hapus gyda'r hyn y bwriadwch ei wneud?
Ie, a byddem yn awyddus i wneud hynny. Ac eisoes mae'r trafodaethau hynny gyda CThEM wedi bod yn mynd rhagddynt, y byddem yn adlewyrchu'r mecanweithiau hyn sydd ganddynt gyda'r apêl i'r tribiwnlys haen gyntaf. Ac rwy'n hapus i fynd yn ôl at swyddogion a cheisio sicrhau bod hyn ymhlith y garfan gyntaf a gyflwynwn, os yw hynny'n rhoi peth sicrwydd.
Nawr, ymddengys i mi mai bwriad y gwelliant a gyflwynwyd gan Janet yw cyfyngu rhywfaint ar yr hyblygrwydd a fyddai gan Weinidogion Cymru i ddefnyddio eu pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil. Nawr, nid wyf yn argyhoeddedig fod hyn yn ddoeth. Drwy fewnosod y gair 'rhaid' yma yn y Bil, rydym yn rhwymo Gweinidogion Cymru i orfod darparu yn y rheoliadau ar gyfer proses apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf, er gwaethaf yr hyn a amlinellais yn awr, sef y bydd yno ym mecanwaith CThEM os caiff y Bil hwn ei basio. Felly, rwy'n fodlon ar y drafft presennol, sy'n golygu y bydd gan Weinidogion Cymru y pwerau hyn i wneud rheoliadau, ond mae eu hopsiynau o ran sut y caiff yr apelau hyn eu trin yn y dyfodol yn cael eu cadw'n fwy agored. Felly, am y rhesymau a nodais, ni allwn gefnogi gwelliant 29, a buaswn yn gobeithio bod yr Aelodau eraill hefyd wedi eu darbwyllo ynglŷn â manteision bwrw ymlaen yn y ffordd a awgrymwn gyda'r Bil hwn, heb fewnosod gwelliant mor gaeth ar wyneb y Bil.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Credaf fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi gwneud y pwyntiau perthnasol, ac felly gofynnaf am gael symud i bleidlais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 29.