Grŵp 12: Adolygiad ac adroddiadau ar effaith y Ddeddf a darpariaeth fachlud (Gwelliannau 30, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2, 35)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 7:00, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Siaradaf am welliannau 30, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E a 35. Er bod y rhain yn ymddangos ychydig fel plymio i gymysgedd o welliannau adolygu, mae pob un ohonynt yn bwysig iawn, a'r prif bwynt yr hoffem ei godi yn nad yw'n dweud 'annibynnol' yn unman yng ngwelliant 2 y Gweinidog, na 'gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru'. Fan lleiaf, byddem wedi disgwyl y dylai unrhyw adroddiad fod yn annibynnol ac ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y ddeddfwrfa, i'w graffu.

Gan droi at welliant 30, dyma welliant hollol wahanol i un y Gweinidog. Fel yr amlinellais yng Nghyfnod 2, mae'r hollt rhwng honiadau'r Gweinidog ynghylch natur dechnegol y Bil, o'i gymharu â'r safbwynt polisi eang iawn o fewn y memorandwm esboniadol a'r cynllun gweinyddol drafft, yn amlwg iawn. Drwy gytuno i beidio â rhoi fawr o fanylion ar wyneb y Bil, byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n caniatáu i bwerau'r Weithrediaeth gynyddu, ac ar yr un pryd yn cyfyngu ar ei phwerau ei hun yn wir. Pwysleisiodd y Gweinidog drwy Gyfnodau 1 a 2 y dylid gadael manylion y cynnig i is-ddeddfwriaeth er mwyn caniatáu ar gyfer hyblygrwydd. Fodd bynnag, gallai is-ddeddfwriaeth newid y cynnig a'r bwriad polisi'n llwyr heb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddefnyddio'i swyddogaeth fel deddfwrfa i graffu arno'n fanwl. Hefyd cyhoeddwyd y gwerthusiad cyntaf o'r cynnig lai na phythefnos yn ôl, fwy na saith mis ar ôl cyflwyno'r Bil gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos felly ei fod yn cefnogi arsylwadau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a bod Llywodraeth Cymru yn deddfu ar gyfer y cynnig gofal plant cyn diwedd y rhaglenni peilot a gwerthuso effeithiolrwydd y polisi.

O ran gwelliannau 2A, 2B, 2C, 2D a 2E, mae'r gwelliannau hyn yn ceisio gwella syniadau'r Gweinidog ei hun ynglŷn ag adolygu'r Bil. Caiff y pryderon sydd gennym ynghylch tryloywder y Bil a deddfwriaeth flaenorol Llywodraeth Cymru eu cadarnhau gan y saith pŵer a roddwyd i Lywodraeth Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth, sydd wedi'u cynnwys mewn 13 o adrannau'r Bil yn unig. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy na 40 diwrnod i bleidleisio ar is-ddeddfwriaeth na ellir ei diwygio heb ymgynghori ystyrlon.

Drwy gydol Cyfnod 1 a 2, mae'r Gweinidog wedi ceisio rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod pryderon allweddol ynglŷn â chludo rhwng lleoliadau gofal plant, cynllunio'r gweithlu, a chodi taliadau ychwanegol, yn cael eu hymchwilio, ac mae'r cynllun gweinyddol drafft hefyd yn gwneud rhai consesiynau ar fanylion y cynnig. Rydym felly'n croesawu rhai o'r consesiynau a'r sicrwydd gan y Gweinidog yn y meysydd hyn. Er enghraifft, rydym yn falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i ychwanegu cwestiynau ymchwil at y gwerthusiad o flwyddyn 2 gweithredwyr cynnar y cynnig o ran cludiant, yn ogystal ag ychwanegu'r cynnig a thaliadau ychwanegol i'r cynllun gweinyddol drafft. Eto i gyd nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gynnwys yn y broses o werthuso'r cynnig a'i effeithiau. Wedi'u rhestru o'n blaenau yng ngwelliant 2C ceir rhai'n unig o'r meysydd y mae'r Gweinidog wedi gwrthod ystyried eu gosod ar wyneb y Bil, ac yn lle hynny mae naill ai wedi eu diystyru, wedi gwneud addewidion yn eu cylch, neu wedi eu hisraddio i'r cynllun gweinyddol anstatudol. Mae'n werth nodi hefyd fod gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hun o weithredwyr cynnar y cynnig gofal plant, a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl, wedi argymell bod angen ymchwil pellach dros gyfnod hwy o amser, er mwyn darparu tystiolaeth bendant ynglŷn ag effaith.

Felly rydym yn dadlau bod y gwelliant hwn yn darparu fframwaith ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i graffu hefyd ar effaith y Bil a'r cynnig gofal plant. O ganlyniad, er nad yw'r rhestr yn y gwelliant hwn yn hollgynhwysol, mae'n dangos bod dymuniadau'r Cynulliad yn cael eu parchu, yn hytrach na'u hisraddio, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hadolygiad o'r Bil. Yn ogystal, dylai'r ffaith bod y Gweinidog ond wedi addo dod â chopi o'r cynllun gweinyddol drafft, a dim arall, gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y gwanwyn, fod yn rhybudd na chaiff ei osod gerbron y Cynulliad. Ar ben hynny, nid ydym yn cytuno â honiad y Gweinidog y bydd cyfnod o bum mlynedd yn rhoi digon o amser i'r Cynulliad adolygu'r cynnig. Bydd cyflwyno'r cynnig yn genedlaethol yn dechrau yn 2020, felly dylai'r Cynulliad fod wedi gallu asesu ei ddigonolrwydd o'r dechrau. Felly, gobeithiwn y caiff gwelliannau 2A a 2D 2E eu pasio.

Yn olaf, fel y bydd Suzy Davies hefyd yn tystio, o dan welliant 35, ceir opsiwn ar gyfer darpariaeth fachlud ar gyfer y Bil, drwy ganiatáu i'r Cynulliad benderfynu a yw wedi cyflawni ei brif ddyletswydd fel mecanwaith i ddarparu'r cynnig gofal plant. Fel y nododd fy nghyd-Aelod yng Nghyfnod 2 y Bil, nid yw cymalau adolygu'n cynnwys opsiwn i benderfynu a yw deddfwriaeth wedi methu cyflawni bwriad polisi. Yn gyntaf, bydd cymal machlud yn caniatáu ar gyfer dirwyn y Ddeddf i ben os na chyflwynir rheoliadau ar ei swyddogaethau, ac yn ail, mae'n caniatáu i'r Ddeddf fachlud os nad yw'n cyflawni ei bwriadau polisi. O ystyried yr angen am y ddau, mae'n amlwg y dylid derbyn gwelliant o'r fath yn achos sgerbwd o Fil fel sydd gennym yma. Diolch.