Part of the debate – Senedd Cymru am 7:26 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
A gaf fi ddechrau drwy adnewyddu gwybodaeth yr Aelodau a'u hatgoffa am y cyfraniad sylweddol rydym eisoes yn ei wneud fel Llywodraeth drwy'r cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu a gyhoeddwyd y llynedd o ran datblygu yn union yr hyn y mae'r Aelod wedi gofyn amdano, sef capasiti a gallu ychwanegol ar draws y sector gofal plant a'r sector chwarae? Nod y cynllun 10 mlynedd yw proffesiynoli'r sector, creu gweithlu medrus a all gynnig gofal plant hyblyg, fforddiadwy o ansawdd uchel. Ac o ran buddsoddi yn sgiliau ac ansawdd y gweithlu, mae cyfres newydd o gymwysterau gofal plant yn cael ei datblygu'n barod ar gyfer cyflwyno'r cynnig yn ail hanner 2019, ochr yn ochr â chyflwyno'r cynnig gofal plant. Bydd y rhaglen brentisiaethau, sy'n darparu rhan o hyn, yn cynorthwyo darparwyr a'u gweithlu i gael mynediad at y cymwysterau hyn.
Ond eisoes hefyd rydym wedi bod yn gweithio ar ffyrdd newydd o annog amrywiaeth go iawn yn y gweithlu. Felly, mewn partneriaeth, er enghraifft, â'r NDNA—Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd—rydym wedi bod yn gweithredu'r prosiect Gwaith Gofal Plant. Rwyf wedi ei weld drosof fy hun. Mae'n targedu rhai sy'n economaidd anweithgar ar hyn o bryd ond sydd â'r sgiliau cywir a'r priodoleddau personol i weithio gyda'n plant ifanc. Mae wedi cynhyrchu nifer o ganlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys creu swyddi, ac rydym bellach yn ystyried bwrw ymlaen â'r ail gam.
Ond rwyf hefyd yn cydnabod yr heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu, a dyna pam rydym yn blaenoriaethu buddsoddiad yn y sector. Mae wedi ei dargedu at fesurau cymorth busnes yn ogystal â sgiliau, a bydd yn helpu'r sector i adeiladu ei gapasiti a'i allu ei hun, ac un o'r sbardunau allweddol ar gyfer hyn fydd eithrio'r holl feithrinfeydd dydd cofrestredig rhag gorfod talu ardrethi busnes o fis Ebrill nesaf. Bydd yr eithrio'n digwydd am gyfnod o dair blynedd, ochr yn ochr â chyflwyno'r cynnig, a bydd yn cynorthwyo darparwyr presennol i ddod yn fwy sefydledig ac i gefnogi busnesau newydd mewn ardaloedd lleol wrth i ni barhau i gyflwyno'r cynnig gofal plant ac ehangu'r gweithlu.
Ond rhaid inni gofio bod y sector yn economi gymysg; mae'n cynnwys sefydliadau sector preifat a'r trydydd sector, yn ogystal â rhai yn y sector cyhoeddus. Ac mae creu swyddi, felly, yn y sector yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac nid yw pob un yn bethau y gall Gweinidogion Cymru ddylanwadu arnynt neu eu rheoli.
Ond byddwn yn parhau i fonitro sut y gellir gwella'r cynlluniau hyn, er mwyn cefnogi'r sector yn y ffordd orau i allu cymryd mantais lawn o'r ymrwymiad cyffrous hwn i gynnig gofal plant. Felly, yng ngoleuni'r gweithgaredd presennol ac arfaethedig gan y Llywodraeth hon i gefnogi a datblygu'r gweithlu ar draws sector sydd, mae'n rhaid dweud, yn amrywiol iawn, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant.