– Senedd Cymru am 7:22 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 14 ac mae'r gwelliannau yma'n ymwneud â chynllunio'r gweithlu. Gwelliant 34 yw'r prif a'r unig welliant yn y grŵp ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Rydym yn cadw gwelliant 34, gan nad yw ymatebion y Gweinidog ar gynllunio'r gweithlu drwy gydol Cyfnod 1 a 2 wedi bod yn ddigon boddhaol. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod dyletswydd ar Weinidogion i archwilio gallu'r gweithlu gofal plant fel bod digon o ofal plant ar gael i rieni allu manteisio ar y cynnig.
Mae'n hanfodol ein bod yn gallu craffu ar gapasiti gan fod tystiolaeth wedi dangos bod problemau wedi codi, yn enwedig ar adegau penodol, yn ystod blynyddoedd academaidd, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol. At hynny, mae Cwlwm—y corff ymbarél ar gyfer pump o ddarparwyr gofal plant yng Nghymru—wedi nodi prinder staff cymwysedig, anawsterau o ran cadw staff oherwydd cyflogau isel ac oriau annigonol, diffyg lleoliadau cofrestradwy ac argaeledd adeiladau ysgol a chymunedol i gynnal gwasanaethau gofal plant.
Yn anffodus, ceir diffygion mewn rhai meysydd o'r sector gofal plant, gan gynnwys darparwyr sy'n gallu darparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a staff sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu gofal plant ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Cymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried setiau sgiliau'r gweithlu gofal plant mewn perthynas â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ar ben hynny, dangosodd ailwerthusiad diweddar o ardal beilot y cynnig gyfraddau isel o ddefnydd ar gyllideb anghenion addysgol arbennig Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar. Mae awdurdodau lleol yn tynnu sylw at ansicrwydd ymysg awdurdodau lleol ynglŷn â sut i ddyrannu'r gyllideb hon, a gellid ei defnyddio i hyfforddi'r darparwyr gofal plant. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn amcangyfrif y byddai angen 21,000 o leoedd ychwanegol cyfwerth ag amser llawn i ateb y galw, os yw'r nifer ddisgwyliedig o rieni'n manteisio ar y cynnig, a byddai angen 2,637 o weithwyr ychwanegol yn genedlaethol erbyn i'r cynnig gael ei gyflwyno'n llawn yn 2020. Gan nad oes capasiti ar hyn o bryd i ddarparu hyn, er mwyn mynd i'r afael â'r prinder posibl, byddai angen cynnydd o 700 y cant yn nifer y prentisiaethau gofal plant a gaiff eu recriwtio a'u cwblhau dros ddwy flynedd. Yn ogystal, mae'r gwerthusiad diweddar o weithredwyr cynnar y cynnig gofal plant wedi nodi, er nad oes llawer o ddarparwyr yn pryderu ynglŷn â chapasiti, er mwyn diwallu'r galw presennol, mae llawer yn nodi eu bod eisoes yn gweithredu ar gapasiti llawn neu bron yn llawn. Ac nid oedd eraill am ehangu gan y byddai hynny'n effeithio'n andwyol ar gymeriad eu lleoliad gofal plant. Testun pryder arall yw'r ffaith nad oes gan un rhan o dair o'r darparwyr gofal plant yn yr ardaloedd peilot gapasiti i ehangu ar hyn o bryd pe bai'r galw'n cynyddu.
Felly, yma eto, nid yn unig fod hyn yn gwrthddweud honiadau'r Gweinidog yng Nghyfnod 2 nad oedd awdurdodau sy'n weithredwyr cynnar yn dangos straen o fewn y system, mae'n gwneud adolygiad o gapasiti'r gweithlu hyd yn oed yn fwy angenrheidiol. Er bod y Gweinidog yn addo adolygiadau mwy trylwyr o gynlluniau ar gyfer y gweithlu yn mlynyddoedd dau a thri o weithredu'r cynnig, mae hynny'n dal i hepgor swyddogaethau'r Cynulliad i graffu ar gapasiti'r gweithlu gofal plant i ddarparu'r cynnig hwn. Diolch i chi.
Y Gweinidog.
A gaf fi ddechrau drwy adnewyddu gwybodaeth yr Aelodau a'u hatgoffa am y cyfraniad sylweddol rydym eisoes yn ei wneud fel Llywodraeth drwy'r cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu a gyhoeddwyd y llynedd o ran datblygu yn union yr hyn y mae'r Aelod wedi gofyn amdano, sef capasiti a gallu ychwanegol ar draws y sector gofal plant a'r sector chwarae? Nod y cynllun 10 mlynedd yw proffesiynoli'r sector, creu gweithlu medrus a all gynnig gofal plant hyblyg, fforddiadwy o ansawdd uchel. Ac o ran buddsoddi yn sgiliau ac ansawdd y gweithlu, mae cyfres newydd o gymwysterau gofal plant yn cael ei datblygu'n barod ar gyfer cyflwyno'r cynnig yn ail hanner 2019, ochr yn ochr â chyflwyno'r cynnig gofal plant. Bydd y rhaglen brentisiaethau, sy'n darparu rhan o hyn, yn cynorthwyo darparwyr a'u gweithlu i gael mynediad at y cymwysterau hyn.
Ond eisoes hefyd rydym wedi bod yn gweithio ar ffyrdd newydd o annog amrywiaeth go iawn yn y gweithlu. Felly, mewn partneriaeth, er enghraifft, â'r NDNA—Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd—rydym wedi bod yn gweithredu'r prosiect Gwaith Gofal Plant. Rwyf wedi ei weld drosof fy hun. Mae'n targedu rhai sy'n economaidd anweithgar ar hyn o bryd ond sydd â'r sgiliau cywir a'r priodoleddau personol i weithio gyda'n plant ifanc. Mae wedi cynhyrchu nifer o ganlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys creu swyddi, ac rydym bellach yn ystyried bwrw ymlaen â'r ail gam.
Ond rwyf hefyd yn cydnabod yr heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu, a dyna pam rydym yn blaenoriaethu buddsoddiad yn y sector. Mae wedi ei dargedu at fesurau cymorth busnes yn ogystal â sgiliau, a bydd yn helpu'r sector i adeiladu ei gapasiti a'i allu ei hun, ac un o'r sbardunau allweddol ar gyfer hyn fydd eithrio'r holl feithrinfeydd dydd cofrestredig rhag gorfod talu ardrethi busnes o fis Ebrill nesaf. Bydd yr eithrio'n digwydd am gyfnod o dair blynedd, ochr yn ochr â chyflwyno'r cynnig, a bydd yn cynorthwyo darparwyr presennol i ddod yn fwy sefydledig ac i gefnogi busnesau newydd mewn ardaloedd lleol wrth i ni barhau i gyflwyno'r cynnig gofal plant ac ehangu'r gweithlu.
Ond rhaid inni gofio bod y sector yn economi gymysg; mae'n cynnwys sefydliadau sector preifat a'r trydydd sector, yn ogystal â rhai yn y sector cyhoeddus. Ac mae creu swyddi, felly, yn y sector yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac nid yw pob un yn bethau y gall Gweinidogion Cymru ddylanwadu arnynt neu eu rheoli.
Ond byddwn yn parhau i fonitro sut y gellir gwella'r cynlluniau hyn, er mwyn cefnogi'r sector yn y ffordd orau i allu cymryd mantais lawn o'r ymrwymiad cyffrous hwn i gynnig gofal plant. Felly, yng ngoleuni'r gweithgaredd presennol ac arfaethedig gan y Llywodraeth hon i gefnogi a datblygu'r gweithlu ar draws sector sydd, mae'n rhaid dweud, yn amrywiol iawn, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Hoffwn symud ymlaen at y bleidlais, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 34.
Gwelliant 35, Janet Finch-Saunders.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 35.
Gwelliant 3, Gweinidog.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 3, felly.