Part of the debate – Senedd Cymru am 7:34 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog—rwy'n gwerthfawrogi eich caredigrwydd ar hyn. Ydy, mae'n ymwneud â Gorchymyn sy'n cyflwyno rhywbeth y mae'r Cynulliad wedi'i gytuno, ond mae angen inni wneud yn siŵr eich bod yn ei wneud yn gywir, a dyna'r tamaid bach o waith craffu ychwanegol yr oeddem yn gofyn amdano yma. Rwyf bron yn sicr, 100 gwaith allan o gant, na fydd problemau, ond ni wyddoch, a dyna sydd angen inni fel seneddwyr gadw llygad arno.