Cefnogaeth ar gyfer Cynghorau Gwledig

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:22, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar 31 Ionawr, bydd arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion yn dod yma i'r Senedd fel rhan o ddirprwyaeth Tyfu Canolbarth Cymru a noddir ar y cyd gan y Llywydd, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a minnau. Bydd cyfle i arddangos cynnyrch a gwasanaethau busnesau lleol ar draws y ddau awdurdod lleol gwledig. Nawr, rwy'n sylweddoli nad chi sy'n arwain ar fargen twf canolbarth Cymru, ac mai mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yw hwnnw, ond a gaf fi ofyn i chi beth rydych yn ei wneud i gefnogi'r ddau awdurdod lleol gwledig er mwyn rhoi hwb i economïau canolbarth Cymru?