Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, nid yw hynny'n rhan o fy nghyfrifoldebau, ond dywedaf wrtho fod y materion hyn wedi'u trafod y tro cyntaf y cyfarfûm ag arweinwyr Cyngor Sir Powys. Cyfarfûm ag arweinwyr yr awdurdod a dywedais wrthynt fod y Llywodraeth hon am fod yn Llywodraeth weithredol a geisiai hyrwyddo a chefnogi datblygiad economaidd ar draws y wlad gyfan, ac y byddem yn cefnogi hynny'n weithredol. Yn sicr, yn y sgyrsiau a gefais gyda'r holl arweinwyr llywodraeth leol ledled y wlad, rydym bob amser wedi pwysleisio y byddwn yn parhau i ddarparu'r lefel honno o gefnogaeth.