Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rydych wedi cael ers 2012 i ddatrys canlyniadau anfwriadol hyn, ac mae niferoedd y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn codi. Mae pobl yn mynd yn ddigartref ac yn aros yn ddigartref oherwydd eich tactegau oedi, ac mae angen gweithredu ar hyn yn awr. Nawr, mae eich cydweithiwr Andy Burnham ym Manceinion wedi addo cael gwared ar gysgu ar y stryd erbyn 2020, wyth mlynedd yn gynt na'ch Llywodraeth chi, saith mlynedd yn gynt na tharged y Torïaid, ac yn rhan o hynny, treuliodd yr hydref yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwely ar gyfer pob person sy'n cysgu ar y stryd y gaeaf hwn, bob nos, mewn amrywiaeth o letyau, gan gynnwys lleoedd ar gyfer menywod yn unig a lleoedd sydd hefyd yn caniatáu i bobl fynd â'u cŵn. Gall aelodau o'r cyhoedd lawrlwytho ap y gallant ei ddefnyddio i gyfeirio pobl sy'n cysgu ar y stryd at leoedd lle y gallant gael cymorth. Pam fod uchelgais a gweithredu fel hyn yn bosibl ym Manceinion, ond nad yw'n bosibl gan eich Llywodraeth chi?