Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Yn wir, rydych yn gywir yn dweud hynny. Mewn perthynas â dirwyon yn gyffredinol—rwy'n credu y gallwn gytuno ar y pwynt hwn—fe wyddom fod llywodraeth leol mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd yn ariannol. A yw'n bosibl efallai fod cynghorau'n rhy barod i gosbi weithiau gyda sawl math o ddirwy ac y gallent fod yn defnyddio'r trethdalwyr lleol fel peiriannau pres?