Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:39, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n bosibl fod hynny'n wir yn ddamcaniaethol. Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod dros Ganol De Cymru, sy'n amlwg yn cael trafferth gyda'r mater hwn: nid wyf yn credu ei bod yn iawn i Weinidogion sy'n sefyll yma yn y lle hwn wneud sylwadau ar y penderfyniadau y mae llywodraeth leol yn eu gwneud wrth gyflawni ei swyddogaethau. Rydym yn atebol yma am benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, nid gan awdurdodau lleol unigol.