Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:38, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n derbyn yr angen am ddemocratiaeth leol ac i benderfyniadau gael eu gwneud yn y blwch pleidleisio, fel y dywedwch. Ond wrth gwrs, mae pobl yn gwneud penderfyniadau yn y blwch pleidleisio yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, nid yn unig ar ba un a ydynt wedi cael dirwy am yrru ar lôn fysiau neu beidio. Felly, gan fod gennych drosolwg ar lywodraeth leol yng Nghymru, tybed a ydych yn effro i'r posibilrwydd y gallai cynghorau fod mewn perygl, heb enwi unrhyw gyngor penodol, yn yr achos hwn efallai—[Torri ar draws.] Wel, gadewch i ni anghofio fy mod wedi enwi'r cyngor hwnnw, a oes posibilrwydd damcaniaethol—? I blesio'r Gweinidog ac efallai i geisio cael ateb mwy goleuedig, a oes posibilrwydd damcaniaethol y gallai cynghorau fod yn rhy barod i gosbi, efallai, wrth gasglu'r mathau hyn o ddirwyon?