Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac edrychaf ymlaen at ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r ffigurau diogelwch diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn dangos bod nifer y digwyddiadau o hunan-niweidio mewn carchardai yng Nghymru yn cynyddu ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys carchar y Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc sydd yno, lle y credaf fod nifer syfrdanol o ddigwyddiadau wedi bod eisoes eleni: 777 o ddigwyddiadau rhwng mis Ionawr a mis Mehefin. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun carchar y Parc i gyflogi dadansoddwyr ymddygiad i wella lefelau diogelwch?