Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rwyf wedi ymweld â CEM Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc yn y carchar, ac rwyf wedi trafod y materion hyn gyda'r cyfarwyddwr yno. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi wedi cadarnhau bod yna ddadansoddwyr rheoli ymddygiad yn y Parc sy'n gweithio i leihau'r lefelau o hunan-niweidio a thrais yn y carchar. Fodd bynnag, credaf fod angen i ni fynd ymhellach na hyn. Credaf fod angen polisi cosbi penodol ar gyfer Cymru, sy'n edrych, yn y lle cyntaf, ar y problemau sy'n ymwneud â throseddu ymhlith yr ifanc a throseddu gan fenywod, a bod angen i ni edrych ar fuddsoddi o fewn yr ystâd ddiogel ond hefyd, yn hollbwysig, ar ymagwedd gyfannol tuag at bolisi sy'n ceisio lleihau troseddu, gwella adsefydlu a sicrhau nad yw menywod, yn enwedig, yn cael eu trin yn y ffordd y cânt eu trin heddiw.