Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Byddwch yn ymwybodol bod awdurdodau lleol Cymru yn aml yn danfon eu deunydd ailgylchadwy i gyfleusterau yn Lloegr neu’r tu hwnt i gael eu prosesu. Mae allforio’r deunydd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegu at ein hôl troed carbon, ond mae hefyd yn meddwl ein bod ni’n colli ar gyfle i greu swyddi. A ydych chi’n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy o ran gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu canolfannau ailgylchu rhanbarthol yng Nghymru a sicrhau bod holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu trin yma yng Nghymru?