Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rydym ni wedi bod, ers rhai blynyddoedd, yn cydweithio â llywodraeth leol a chynghorau gwahanol i greu’r union fath o rwydwaith rhanbarthol y mae’r Aelod yn awgrymu ein bod ni’n gwneud, ac mae hynny’n bodoli yn y rhan helaeth o’r wlad. Rydw i’n fodlon iawn gyda'r math o drefniadau y mae’r cynghorau wedi eu gwneud er mwyn sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei ailgylchu neu ei drin yn y ffordd briodol.