Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rwy'n cytuno'n gryf â chasgliadau'r Aelod dros Ganol De Cymru. Cefais gyfarfod â Charlie Taylor, cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn yr ychydig wythnosau diwethaf i drafod y materion hyn gydag ef a sut yr awn i'r afael â throseddau ieuenctid. Mae'r dadansoddiad a ddisgrifiodd yr Aelod yn gwbl gywir a chredaf ei fod yn argyfwng sy'n rhaid i ni roi sylw iddo. Pan fydd yn darllen y glasbrint, pan gaiff ei gyhoeddi, yr wythnos nesaf, gobeithio, rwy'n gobeithio y bydd yn cael sicrwydd ein bod yn gwneud hynny. Buaswn yn sicr yn hapus iawn i fynychu'r grŵp trawsbleidiol i drafod y materion hyn yn fwy manwl os yw'n dymuno i mi wneud hynny. Ond craidd fy nadansoddiad yw fy mod yn credu bod angen i ni fabwysiadu ymagwedd lawer mwy cyfannol tuag at bolisi. Mae'r setliad toredig sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd yn rhwystr i hynny, a buaswn yn hoffi gweld y system gosbi a chyfiawnder troseddol yn cael eu datganoli i Gymru er mwyn ein galluogi i ddatblygu a mabwysiadu'r ymagwedd gyfannol honno tuag at bolisi.