Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:57, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig yn ôl, rhoddodd yr Arglwydd Laming gyflwyniad ar ei adolygiad o'r system cyfiawnder troseddol ieuenctid i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Soniodd am y canfyddiad brawychus fod plant sy'n derbyn gofal yn llawer mwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid o gymharu â'u cyfoedion, yn aml oherwydd bod y rhai sy'n gysylltiedig—yr heddlu, athrawon a'r llysoedd—yn tybio bod ymateb penodol yn briodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn wahanol i'w hymateb i blant o gefndiroedd eraill, ac mae'r rhagfarn gynhenid hon yn amlwg yn peri pryder. Mae'n adolygiad ardderchog ac yn un tosturiol iawn, ac rwy'n gobeithio bod yr holl asiantaethau perthnasol wedi ystyried yr argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr adolygiad hwnnw.