Cefnogi Cyn-filwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:03, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod y boblogaeth ddigartref yn cynnwys cyfran uwch o gyn-filwyr yn aml. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac mewn cymunedau gwledig, mae'n bosibl fod y bobl hyn yn llai tebygol o fod yn cysgu ar y stryd yn y pen draw, ond maent yn aml iawn mewn sefyllfaoedd ansicr iawn, yn mynd o soffa i soffa ac o un aelod teuluol i'r llall a mathau eraill o sefyllfaoedd. Pa drafodaethau rydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r math hwn o ddigartrefedd cudd ymhlith y boblogaeth cyn-filwyr?