Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rwy'n cefnogi'r dull cydweithredol a amlinellwyd gan yr Aelod dros y Preseli. Mae'n bwysig i awdurdodau lleol o ba bynnag faint neu siâp allu gweithio gyda'u cymdogion i gyflawni'r math o uchelgais y byddai ef a minnau'n cytuno arno yn ôl pob tebyg o ran bargen ddinesig bae Abertawe. Fodd bynnag, mae'r materion sy'n ymwneud ag uno neu strwythurau o fewn awdurdodau lleol ychydig yn wahanol, wrth gwrs, ac mae'r rheini'n ymwneud â chynaliadwyedd yr unedau llywodraethu hynny. Fy marn i, a barn llywodraeth leol, yw nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, fel Gweinidog, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod y ffeithiau hynny'n cael eu cyflwyno i'r lle hwn a llywodraeth leol a'n bod yn gallu symud tuag at benderfyniad ar hynny.
Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod ei bod yn iawn ac yn briodol wedyn iddo gefnogi'r cynigion hynny i sicrhau bod ei etholwyr, a'n holl etholwyr, yn cael y gwasanaethau o ansawdd uchel y maent eu hangen, a bod awdurdodau lleol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.