Gweithio Rhanbarthol ymysg Awdurdodau Lleol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:53, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod yn cytuno â phopeth y mae Paul Davies newydd ei ddweud? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bwysig i bob gwasanaeth cyhoeddus weithio o fewn yr un ôl troed rhanbarthol, sy'n wir am brifddinas-ranbarth Caerdydd, ond nid yw'n wir am ddinas-ranbarth bae Abertawe, ac a yw'n cytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod awdurdodau lleol yn dod i arfer â gweithio gyda'i gilydd? Mae'n bosibl bod gwahanol bleidiau gwleidyddol wrth y llyw yn y pedwar awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru, ond maent wedi dangos arweinyddiaeth gref yn yr ardal wrth weithio gyda'i gilydd.