Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rwy'n credu ein bod yn gwneud llywodraeth yn rhy gymhleth ar adegau. Credaf fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn yma ac mewn mannau eraill. Credaf fod angen i ni edrych am eglurder yn y ffordd rydym yn strwythuro'r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau ond hefyd yn y ffordd y strwythurwn yr atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny. Felly, credaf fod angen i ni sicrhau bod gennym ôl troed rhanbarthol sy'n ddealladwy, nid yn unig i'r rhai ohonom sy'n gorfod gweithio gydag ef, ond hefyd i'r etholwyr y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu. Ond nid wyf yn credu bod hynny, ynddo'i hun, yn ymateb digonol i rai o'r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd pawb ohonom yn ymwybodol o'r anawsterau ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol heddiw, ond rydym hefyd yn gwybod bod Brexit a materion eraill yn golygu y byddant yn wynebu penderfyniadau hyd yn oed yn anos yn y dyfodol, ac felly, mae gennym gyfrifoldeb i feddwl yn galed am y dyfodol hwnnw ac i sefydlu strwythurau sy'n gynaliadwy yn y dyfodol.