Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi'n glir ein cynllun i godi safonau ar gyfer yr holl bobl ifanc yn ein hysgolion. Rydym yn darparu buddsoddiad mwy nag erioed i gefnogi datblygiad athrawon, i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig ac i wella capasiti arweinyddiaeth ac arferion da ar draws y system.