3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2018.
1. O ystyried bod adroddiad diweddar Estyn yn datgan y gallai ysgolion uwchradd yng Nghymru wneud yn well, gyda dim ond hanner wedi'u barnu i fod yn dda neu'n ardderchog ar hyn o bryd, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y codir safonau ar draws holl ysgolion uwchradd Cymru? 242
Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi'n glir ein cynllun i godi safonau ar gyfer yr holl bobl ifanc yn ein hysgolion. Rydym yn darparu buddsoddiad mwy nag erioed i gefnogi datblygiad athrawon, i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig ac i wella capasiti arweinyddiaeth ac arferion da ar draws y system.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu efallai y dylwn ddechrau drwy gydnabod bod Estyn yn dweud eu bod yn fodlon fod cynnydd wedi bod yn y sector cynradd. Ond rwy'n credu mai bradychu'r bobl ifanc hynny a wneir os ydynt wedyn yn symud ymlaen i ysgolion lle mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion—ac rwy'n golygu'r rhan fwyaf—ar draws yr ystod oedran a'r ystod gallu, yn parhau i fethu datblygu sgiliau a gwybodaeth yn ddigon da, neu'n methu gwneud digon o gynnydd, neu'n cael trafferth i feddwl yn annibynnol, neu deimlo'n gyfrifol am eu dysgu eu hunain. Yn amlwg, daw'r dyfyniadau hynny o adroddiad Estyn.
Gyda hanner yr ysgolion yn tangyflawni, ac awgrym gan Estyn fod y bwlch rhwng ysgolion sy'n perfformio'n dda a'r rhai nad ydynt yn perfformio'n dda yn debygol o ehangu, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig mwy o fanylion i ni am yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud, oherwydd ni fydd Donaldson yn weithredol tan 2022, sy'n genhedlaeth ysgol i ffwrdd bron, ac ni allwch aberthu'r garfan gyfredol hon i gyfnod arall o annigonolrwydd. Ac rwy'n credu mai chi fyddai'r cyntaf i ddweud hynny, pe baech yn eistedd ar unrhyw fainc arall heblaw am y fainc flaen yn y lle hwn.
Felly, yn gyntaf, yr ysgolion sy'n destunau mesurau arbennig neu sydd angen gwelliant sylweddol o hyd: gofynnais i chi pa gamau roeddech wedi'u cymryd mewn perthynas â'r rhain yn ôl ym mis Medi, ac fe restroch chi nifer o gamau gweithredu, ond fe wnaethoch gyfaddef nad oeddech wedi arfer eich pwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd mewn ysgolion. O gofio canlyniadau'r adroddiad hwn, rwy'n meddwl tybed a fyddech yn barod i wneud hynny bellach.
I rai o'r disgyblion—. Mewn traean o'r ysgolion a ymchwiliwyd gan Estyn, gwelsant fod disgyblion wedi ymddieithrio, nid oedd ganddynt lawer o ddiddordeb yn eu gwaith, byddent yn tarfu ar ddysgu disgyblion eraill, a bod prinder sgiliau dysgu annibynnol a beirniadol gan rai disgyblion blwyddyn 12, a olygai eu bod yn cael trafferth gyda'u pynciau Safon Uwch ac yn gadael yr ysgol ym mlwyddyn 12 mewn gwirionedd. Credaf fod nifer sylweddol o ddisgyblion yn methu cyflawni eu potensial gan nad yw eu galluoedd dysgu annibynnol a beirniadol yn cael eu datblygu'n gynharach yn eu haddysg. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n fy mhoeni y gallai'r disgyblion hyn fod yn ystyried mai methiant ar eu rhan hwy yw hyn, er mai methiant eu haddysg ydyw mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod rhai o'r ysgolion hyn angen y cymorth nad ydynt yn ei gael ar hyn o bryd.
Nawr, ar ôl consortia, Her Ysgolion Cymru ac academi Cymru, sy'n siarad llawer am arweinyddiaeth, nid wyf yn credu eu bod wedi bod yn rhoi'r canlyniadau roeddech wedi gobeithio amdanynt. Felly, beth allwch chi ei wneud nesaf i sicrhau bod disgyblion blwyddyn 7 eleni yn camu ymlaen tuag at gyrraedd eu potensial yn hytrach na, wn i ddim, aros yn yr unfan neu fynd tuag yn ôl hyd yn oed? A allwch ddweud wrthym beth yw'r cynlluniau a ddiweddarwyd ar gyfer eich Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol? Roedd gan y Ceidwadwyr Cymreig ddiddordeb mawr yn y syniad hwnnw eu hunain. Ac a wnewch chi rannu gyda ni yr atebion i'r cwestiynau miniog y byddwch yn siŵr o'u gofyn i'r consortia ar sail yr adroddiad hwn gan Estyn: pam nad ydynt wedi sbarduno'r newid mawr y gallem fod wedi'i ddisgwyl yn yr ysgolion hynny, yn enwedig gan eich bod wedi cytuno i roi £5 miliwn ychwanegol iddynt ar ganol blwyddyn o ganlyniad i le yn y gyllideb. Rwy'n awyddus iawn i glywed beth fydd yn digwydd i'n disgyblion yn awr, nid ar ôl 2022. Diolch.
Rwy'n croesawu adroddiad blynyddol y prif arolygydd ar gyfer 2017-18. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r adroddiad yn fanylach, ac wrth gwrs byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn, a deallaf, Lywydd, fod hwnnw wedi'i drefnu ar gyfer 19 Chwefror y flwyddyn nesaf.
Rwy'n falch fod yr Aelod wedi cydnabod y cynnydd a wnaed yn y sector cynradd, ond fi fyddai'r person cyntaf i ddweud nad yw'r cynnydd yn ein sector uwchradd yn ddigon da. Dywedaf hynny, nid yn unig oherwydd fy mod ar y meinciau hyn; dywedaf hynny fel rhiant sydd â phlant yn y system fy hun. Rwyf eisiau i'n holl blant fynychu ysgolion uwchradd da neu ardderchog yma yng Nghymru, a'n dull o weithredu yw cynorthwyo pob ysgol i fod yn dda ac yn rhagorol, yn hytrach na'r dull a welsom ar waith yn bendant iawn ddoe ar draws y ffin, pan gafodd £50 miliwn ei gyhoeddi i gefnogi 16 o ysgolion uwchradd dethol iawn yn unig. Dyna yw'r gwahaniaeth rhwng dull y Llywodraeth hon a'r dull y byddai'r Torïaid yn ei fabwysiadu, rhoi cefnogaeth i ysgolion penodol a phlant penodol, tra ein bod ni eisiau i'n holl ysgolion wneud yn dda.
Nawr, gadewch i mi fod yn gwbl glir am yr hyn a wnawn. Roedd yr adroddiad arolygu yn dweud ddoe fod angen i ni wneud mwy i gefnogi ein proffesiwn addysgu. Dyna pam y byddwn yn gwario £24 miliwn dros y 18 mis nesaf ar gefnogi dysgu proffesiynol ein staff. Dyma'r buddsoddiad unigol mwyaf yn athrawon Cymru ers datganoli, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein holl addysgwyr, ym mhob ystafell ddosbarth, gystal ag y gallant fod.
Mae adroddiad Estyn hefyd yn cyfeirio'n gywir at wahaniaethau yn ansawdd yr arweinyddiaeth yn ein system. Dyna pam rydym wedi sefydlu'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, ac a bod yn deg, Suzy, mae'n llai na blwydd oed, ac mae dweud nad yw wedi cyflawni yn annheg â'r bobl sy'n gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod ein harweinwyr, ein penaethiaid newydd a'n darpar benaethiaid, gystal ag y gallent fod.
I mi, yr hyn sy'n gwbl allweddol yw ei bod hi'n rhy hwyr erbyn i ysgol gael ei rhoi mewn categori gan Estyn, naill ai mesurau arbennig neu welliant sylweddol. Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol adnabod eu hysgolion yn ddigon da i allu ymyrryd yn gynt os ydynt yn amau bod ysgol yn cael trafferth i ateb anghenion ei disgyblion, ac ni ddylem adael i'r sefyllfa gyrraedd y pwynt o fod angen adroddiad arolygu gan Estyn i ddweud bod yr ysgol honno angen cymorth ychwanegol. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried opsiynau o ran beth arall y gallwn ei wneud i ymyrryd yn gynharach mewn ysgolion nad ydynt, o bosibl, yn ateb anghenion eu plant, ysgolion sy'n cael trafferth i ymdopi ac sy'n peri pryder. Ar hyn o bryd, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i fonitro'r ysgolion hynny, ac rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol roi camau ar waith ar fyrder ar gyfer yr ysgolion sy'n peri pryder. Os ydynt angen mwy o gymorth i wneud hynny, naill ai gan Lywodraeth Cymru neu gan y consortia rhanbarthol, byddaf yn sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael.
Pa mor heriol bynnag yw'r sefyllfa yng Nghymru, nid yw'n agos at fod mor heriol â'r sefyllfa sy'n wynebu disgyblion yn Lloegr, lle mae ysgolion sy'n destunau mesurau arbennig yn cael eu gadael ar drugaredd y gwynt oherwydd bod rheidrwydd ar yr academïau i'w cymryd o dan eu hadain, ond mae'r academïau'n troi cefn arnynt. Nid ydynt yn cael eu harolygu gan arolygwyr ei Mawrhydi hyd yn oed, felly mae'n gwbl chwerthinllyd nad yw pobl ar y meinciau Ceidwadol yn gallu cydnabod ein bod mewn sefyllfa well o lawer.
Credaf fod adroddiad Estyn yn arweiniad da iawn o ran beth sy'n arferion da, ac mae ar ffurf darllenadwy iawn i'r holl arweinwyr ysgolion allu gwneud defnydd ohono. Nid yw'n wir o gwbl fod hanner yr ysgolion yn methu. Mae gennyf un pryder, sy'n ymwneud â diffyg darpariaeth blynyddoedd cynnar sy'n rhagorol. Gall hyn ymddangos yn bell iawn o addysg ysgol uwchradd, ond mewn gwirionedd, dyna ble y gallwn ddechrau mynd i'r afael ag anfantais amddifadedd. Mae'n wych fod gennym bellach bedair enghraifft o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar y bernir eu bod yn rhagorol, pedair yn fwy na'r llynedd, ond yn amlwg rydym angen llawer mwy.
O ran cefnogi rhagoriaeth yn ein haddysg uwchradd, roeddwn yn meddwl tybed a fyddech, yn eich ymateb i adroddiad Estyn, yn ailystyried adfer Her Ysgolion Cymru. Nid fi yw'r unig un ar y meinciau hyn sy'n credu bod y rhaglen wedi'i diddymu cyn cael amser i wreiddio'r arfer o rannu arferion da sy'n amlwg iawn mewn nifer o'n hysgolion uwchradd ac sydd angen cael eu rhannu, yn enwedig gyda'r ysgolion sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Gwelsom pa mor ragorol a thrawsnewidiol oedd y rhaglen yn Llundain, felly roeddwn yn meddwl tybed a fyddech yn ystyried hynny.
Roedd y dystiolaeth yn gymysg mewn perthynas â'r rhaglen Her Ysgolion yng Nghymru. Yn sicr, elwodd rhai ysgolion o gyfranogi yn y rhaglen. Ceir rhai ysgolion sydd wedi methu gwneud y cynnydd y byddem wedi hoffi ei weld er gwaethaf yr adnoddau ariannol a'r cymorth ychwanegol sylweddol a gawsant. Unwaith eto, un o'r heriau gyda Her Ysgolion Cymru yw bod y cymorth hwnnw'n gyfyngedig i un grŵp o ysgolion, yn hytrach na dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ysgolion sy'n peri pryder.
Rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod, Jenny, am yr argymhellion diddorol a gyflwynwyd gan Graham Donaldson yn ei adolygiad o Estyn, yr arolygiaeth. Ceir rhai sylwadau ynglŷn â sut y gallwn wella'r sefyllfa ar gyfer ysgolion sy'n cael eu categoreiddio neu sy'n destunau mesurau arbennig. I ormod o'r ysgolion hynny, nid yw'r cymorth sydd ar gael i'w helpu i wella'n gyflym yn gyson ac nid yw'n gwneud yr hyn yr hoffwn iddo ei wneud. Rwy'n dal i drafod gydag Estyn i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r ysgolion sy'n cael eu categoreiddio.
Rydym yn ymwybodol o rai elfennau hanfodol sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella perfformiad ysgolion yn gyflym os ydynt yn y sefyllfa honno. Ond fel y dywedais, mae ysgol sydd wedi gorfod aros i gael ei rhoi mewn categori ffurfiol gan Estyn wedi aros yn rhy hir am gymorth. Mae angen i ni weithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i gael gwell dealltwriaeth o sut y gallwn nodi problemau yn gynt, a sut y gallwn ddarparu cymorth i'r ysgolion hynny cyn i Estyn ddod i mewn a dweud bod angen iddynt wella.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.