Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n deall, wrth gwrs, beth fyddai'n cymell y Ceidwadwyr i gyflwyno cynnig fel hyn. A ninnau'n dod at ddiwedd amser y Prif Weinidog presennol, mi allem ni fod wedi cyflwyno rhestr o fethiannau—fel yr ydym yn eu gweld—gan y Llywodraeth ein hunain. Ond rydw i'n meddwl ei bod yn dweud llawer am y Ceidwadwyr, yn y rhestr hirfaith yma, nad oes yna gyfeiriad at dlodi plant, digartrefedd, allyriadau carbon, ac yn y blaen. Mae Llywodraeth Cymru, drwy eu gwelliant nhw, yn ymateb yn y ffordd, mae'n siŵr, y gallem ni fod wedi ei ddisgwyl: yn rhestru rhes hir o ystadegau heb gyd-destun, neu wedi cael eu defnyddio—waeth i ni fod yn blaen—mewn modd camarweiniol, a hynny er mwyn cyfiawnhau eu gweithredoedd. Gallaf i gyfeirio yn benodol at yr 20,000 o gartrefi fforddiadwy y maen nhw'n cyfeirio atyn nhw. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys cartrefi wedi eu gwerthu drwy Gymorth i Brynu—Cymru, cynllun lle mae traean y tai wedi eu gwerthu dros £200,000 mewn pris, sydd ddim yn gallu cael ei roi dan bennawd 'fforddiadwy', pa bynnag ffordd yr ydych chi'n edrych arno fo.
Felly, mi adawn ni i'r Ceidwadwyr a Llafur chwarae eu ping-pong nhw heddiw. Mi fyddwn ni yn ymatal yn y bleidlais yma, ond mi wnaf i ddefnyddio'r cyfle yma i wneud ychydig o sylwadau fy hun hefyd—nid wrth restru yn y ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud, mor foel a diddychymyg, ond wrth edrych ar rai o'r ffactorau sylfaenol yna sydd yn broblematig, rydw i'n meddwl, yn y ffordd y mae Llafur, dan y Prif Weinidog yma, wedi ceisio llywodraethu Cymru. Mae'n nhw'n batrymau ac yn themâu cyson, sydd wedi cael eu hadlewyrchu mewn cyfresi o adroddiadau pwyllgor, gan yr archwilydd cyffredinol, gan lawer o'r amrywiol gomisiynau a grwpiau gorchwyl a gorffen y mae'r Llywodraeth wedi eu creu i guddio'u diffyg gweithredu.
A dyna lle wnaf i ddechrau, o bosib—yr holl grwpiau gorchwyl a gorffen, y paneli adolygu yma, llawer ohonyn nhw yn ddiangen, ac yn hytrach—maen nhw'n cael eu gweithredu dro ar ôl tro ar ôl tro, yn berffaith blaen fel tacteg oedi, yn hytrach na gwneud penderfyniadau. Ystyriwch ddigartrefedd a'r cwestiwn o ddiddymu'r angen blaenoriaethol, sydd bellach yn destun adolygiad. Pam adolygiad arall? Mi gomisiynodd y Llywodraeth Brifysgol Caerdydd i adolygu cyfraith ddigartrefedd nôl yn 2012, a'r argymhelliad oedd i ddiddymu angen blaenoriaethol. Nid oes yna ddim byd wedi digwydd o hyd, a beth sy'n digwydd ydy bod pobl yn dal, y gaeaf oer yma, i gysgu allan, yn marw ar ein strydoedd ni, oherwydd oedi gan y Llywodraeth cyn cyrraedd penderfyniad.
Mae yna themâu eraill hefyd. Targedau—mae yna gyfeiriad yn y cynnig ei hun, ac yng ngwelliannau y Llywodraeth, at dargedau. Rydym ni'n gallu gweld beth sy'n digwydd o ran targedau: mae targedau y Llywodraeth yma, dro ar ôl tro, yn cael eu gosod yn is na'r Alban a Lloegr—yn dal i gael eu methu, gyda llaw—fel ymgais i wneud i'r Llywodraeth edrych fel pe bai nhw yn perfformio. Diffyg uchelgais ydy'r broblem graidd yn y fan hyn, rydw i'n meddwl. Cymerwch honiad y Llywodraeth yn y gwelliant bod bron i naw o bob 10 claf yn cael ei drin o fewn 26 wythnos: wel, 77 y cant ydy'r ffigur hwnnw go iawn, ar gyfartaledd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl StatsCymru, nid naw allan o bob 10. Yn yr Alban a Lloegr, 18 wythnos ydy'r targed, ac, o leiaf yn yr Alban, mae bron i naw mewn 10 claf wir yn cychwyn ar eu triniaeth o fewn 18 wythnos.
Problem arall: amharodrwydd y Llywodraeth yma i ddysgu o arfer da. Mi ddywedodd Comisiwn Williams bod arfer da yn teithio yn wael dan law y Llywodraeth yma. Faint o weithiau a ydym ni wedi clywed am yr arferion da ar raddfa fach sydd wedi methu â chael eu hehangu neu eu rowlio allan? Mi allwn i fynd ymlaen—mae amser yn brin.
Un peth a wnaeth fy nharo i'n gynharach y prynhawn yma—un o broblemau sylfaenol y Llywodraeth yma ydy eu hamharodrwydd nhw i arwain. Dilyn y mae'r Llywodraeth yma, yn llawer iawn yn rhy aml. Ac roeddwn i'n clywed un Ysgrifennydd Cabinet yn siarad yn gynharach am ei gefnogaeth bybyr o i ddatganoli heddlu a'r drefn gyfiawnder. Wel, grêt—rydw i wrth fy modd yn gweld y Llywodraeth yma'n cefnogi hynny rŵan, ond tu ôl i'r curve fel bob amser, ac rydym ninnau ym Mhlaid Cymru yn falch mewn un ffordd o weld y Llywodraeth yn ein dilyn ni ac yn cefnogi'n safbwynt ni ar hynny neu ar dreth ar ddiodydd â siwgr ynddyn nhw ac ati, ond o mae o'n rhwystredig o weld Llywodraeth yn colli cyfleon i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
I'r Ceidwadwyr, gwrandewch, dewch â'ch syniadau eich hunain i'r bwrdd hefyd. Nid ydy rhestr negyddol fel hyn, heb gynnig syniadau yn eu lle nhw, byth yn edrych yn dda yng ngolwg y cyhoedd.