Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Gwaddol y Prif Weinidog sydd o dan y chwyddwydr heddiw. Rydym ond newydd lunio ein polisi ein hunain yr wythnos hon ar sut i wella tai a darpariaeth ar gyfer hynny yng Nghymru, felly ni allwch ddweud nad oes gennym syniadau. Ond nid heddiw yw'r dydd ar eu cyfer hwy. Byddwch yn cael digon gennym dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—peidiwch chi â phoeni am hynny.
Yn ôl y disgwyl, wrth gwrs, pe bai'r Prif Weinidog wedi bod yma heddiw, byddai wedi ceisio ymateb i'r diffygion yn ei Lywodraeth drwy roi'r bai ar Lywodraeth y DU, ond mae addysg wedi'i ddatganoli'n llwyr ers 20 mlynedd, ac mewn gwirionedd—a chredaf fy mod yn fwy tebygol o gael hyn gennych chi, arweinydd y tŷ—byddai'n well gennyf glywed dadansoddiad o'r hyn y credwch sydd wedi mynd yn iawn neu wedi mynd o chwith o dan ei oruchwyliaeth ef mewn perthynas ag addysg.
Gallaf sôn yn gyflym am arian, gan fod cysylltiad yno â Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, tôn gron Llywodraeth Cymru ynglŷn â diffyg arian—rydym ni'n dweud cynnydd mewn cyllid o un flwyddyn i'r llall; rydych chi'n dweud toriadau mewn termau real. Ond mae'r ddau safbwynt yn codi cwestiwn ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gwario'r hyn a gaiff ar roi'r cyfle cyntaf i blant gael gwell dyfodol. Yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, cydnabu'r Prif Weinidog fod addysg yng Nghymru yn cael bargen wael gan ei Lywodraeth ei hun ar y pwynt hwnnw, ac nid Llywodraeth y DU oedd honno. Roedd ei gynnig yn cynnwys ymrwymiad, ac rwy'n dyfynnu, 'i wario 1 y cant yn fwy na’r grant bloc bob blwyddyn hyd nes y byddwn mewn sefyllfa lle bydd cyllid y pen disgyblion yma yn gydradd â'r hyn a geir yn Lloegr'.
Wel, naw mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i fod heb gael cyllid y pen i ddisgyblion sy'n gydradd â Lloegr, ac mae ffigurau Lloegr ei hun wedi gostwng yn y cyfamser. Yr hyn a gawsom yn y cyfnod hwnnw, yn sicr ers i mi fod yma, yw gostyngiad mewn termau real o 7.9 y cant—a chi sy'n hoffi ffigurau mewn termau real—o ran y gwariant gros a gyllidebwyd ar gyfer addysg, a thoriad o 7.5 y cant mewn termau real yn y gwariant fesul disgybl. Rydych yn cael 20 y cant yn fwy i'w wario fesul disgybl nag yn Lloegr, ac eto, ers blynyddoedd, rydych wedi gwario llai fesul disgybl nag yn Lloegr. Ni ellir gwadu hynny, ac rydym mewn sefyllfa bellach lle mae cynghorau Llafur yn dweud nad ydynt yn gallu diogelu gwariant ar ysgolion. Cafodd Llywodraeth Cymru naw mlynedd i gadw at yr addewid yr etholwyd y Prif Weinidog arno, yn gyntaf fel arweinydd ei blaid, ac yna fel arweinydd y wlad, ac ni chadwyd at yr addewid hwnnw. Yn ei dermau ei hun, mae hynny'n fethiant.
Ond nid oes a wnelo addysg ag arian yn unig, rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl hynny; mae'n ymwneud â diwylliant ehangach o safonau cystadleuol, creu gweithlu bodlon ac uchelgeisiol, gan gynnwys yr addysgwyr eu hunain, ac yn fwyaf oll, plant ac oedolion cryf, iach, creadigol sydd â diddordeb yn y byd ac sy'n awyddus i gyfrannu ato hyd eithaf eu gallu. Ac er bod angen arian ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae a wnelo llwyddiant addysg lawn cymaint â'r athroniaeth a'r cyfeiriad polisi. Mae effeithiau blynyddoedd o bolisi Llafur—wel, rydym wedi eu hailadrodd lawer gwaith; soniodd Paul Davies am rai ohonynt. Am y pedwerydd tro mewn degawd, rydym ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU mewn perthynas â chanlyniadau PISA—gyda'r rhai mwyaf diweddar hyd yn oed yn waeth nag yn 2009—yn benodol mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, a graddau TGAU A i C eleni, a oedd unwaith eto'n waeth na'r llynedd, sef y flwyddyn isaf o ran cyflawniad ers 2006, roedd mathemateg, Saesneg, bioleg, cemeg a ffiseg, yn ogystal â Chymraeg iaith, yn adlewyrchu'r canlyniadau PISA hynny, er eu bod wedi eu mesur mewn ffordd hollol wahanol. Mae 45 o sefydliadau addysg ledled Cymru yn destunau mesurau arbennig neu angen eu gwella'n sylweddol; mae un ohonynt yn y sefyllfa honno ers pedair blynedd. Fel y dywed Estyn yn yr adroddiad ddoe:
'Er gwaethaf mentrau amrywiol, gan gynnwys bandio a chategoreiddio... nid oes digon yn cael ei wneud i’w cynorthwyo', sef yr ysgolion hyn, neu i ddatblygu strategaethau cynaliadwy ar gyfer ysgolion. A chyda chymaint o ymdrech ac arian yn mynd tuag at y mentrau amrywiol hyn, yn enwedig mewn perthynas â safonau—rydym yn sôn am gonsortia rhanbarthol, Her Ysgolion Cymru; roedd Jenny Rathbone yn sôn am hynny yn gynharach—pam fod mwy na hanner ein hysgolion uwchradd yn dal i gael adroddiadau arolygu nad ydynt yn dda neu'n rhagorol? Nawr, mae hwn yn fethiant o un flwyddyn i'r llall ers i mi fod yn y lle hwn.
Aeth miloedd o rieni a neiniau a theidiau plant a phobl ifanc drwy system addysg a oedd yn ennyn cenfigen a pharch, nid yn unig yn y DU, ond ledled y byd, a bellach, nid yw'r plant hynny'n cael yr un fraint, gan fod y sytem yn cael ei gweithredu gan weinyddiaeth Lafur esgeulus, mea culpa hwyr gan y Prif Weinidog ac ymagwedd fiwrocrataidd tuag at godi safonau. Ni fydd dweud bod gan fwy o bobl ifanc gymwysterau TGAU, neu gymwysterau cyfatebol, nag yn y 1990au yn ddigon. Nid yn unig fod hynny'n wir am weddill y DU, ond mae gweddill y DU wedi gwneud gwaith gwych o gymharu. Wrth ymgymryd â'r portffolio hwn rwy'n wynebu tswnami o adolygiadau—tswnami o adolygiadau—ac ar hynny, gyda llaw, os ydych am fwy o arian—nid wyf yn gwybod ble mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyn o bryd—mae'n bryd i chi dorchi llewys mewn perthynas ag adolygiad Reid. Mae digon o arian yn aros amdanom yno, os dilynwch yr argymhellion hynny.
Credaf fod y llu o adolygiadau yn arwydd fod Llywodraeth Cymru yn derbyn ei bod wedi gwneud llanastr o bethau ers amser maith, a bod yn rhaid dechrau o'r dechrau. Yn sicr, mae'n teimlo felly. I'n pobl ifanc a'u dyfodol, fodd bynnag, nid yw newid arweinydd plaid yn golygu newid o ran sylwedd. Ni wnaiff yr holl adolygiadau yn y byd newid unrhyw beth tra bo'r un llaw farw ar y llyw wrth i long Llafur Cymru suddo.