6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Perfformiad Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:55, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Y peth yw, nid yw Cymru wedi gweld unrhyw ochr arall i'r geiniog. Dim ond am berfformiad y Blaid Lafur rwy'n sôn. Nid oes angen Llywodraeth Lafur newydd ar Gymru. Mae angen Llywodraeth newydd ar Gymru yma.

Mae 200,000 o blant tlawd yn byw mewn tlodi yng Nghymru—200,000. O ran tlodi, yr economi, teuluoedd, ethnigrwydd ac anabledd, rydym yn waeth na'r Deyrnas Unedig. Ceir rhestr hir o amddifadedd materol, tlodi parhaus, tlodi mewn gwahanol ardaloedd ac amddifadedd yng Nghymoedd de Cymru. Nid ydych wedi dihuno ers Margaret Thatcher. Yn y bôn, gallwch ddweud llawer o bethau am y peth, ond chi yw'r rhai sy'n rhedeg y Llywodraeth ers 1999, ac nid oes dim wedi'i wneud, ac mae'n gywilydd ar Lywodraeth Lafur Cymru yn gyffredinol.