Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Credaf ei bod yn eithaf dadlennol ar ddechrau'r ddadl hon, pan nad oedd ond un Gweinidog ar fainc y Llywodraeth, ac un aelod o'r blaid sy'n llywodraethu ar y fainc gefn i amddiffyn ei gweithredoedd mewn dadl a oedd yn edrych yn ôl dros y naw mlynedd diwethaf, yn ôl at 2009. Mae hynny'n dweud ei stori ei hun wrthych ynglŷn ag ymwneud y blaid sy'n llywodraethu mewn dadleuon yma y prynhawn yma.
Mae'n bleser sefyll yma heddiw, ac mae'n werth myfyrio hefyd ar weithgareddau a chyflawniadau'r Prif Weinidog presennol. Yr adeg hon wythnos nesaf, ni fydd yn Brif Weinidog, ac mae rhywun sydd wedi cyflawni rôl ers naw mlynedd ac wedi bod ynghanol y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers datganoli—credaf ei fod wedi dod i'r Llywodraeth yn 2000-01—yn deilwng o gydnabyddiaeth a chanmoliaeth yn ogystal, oherwydd mae hwnnw'n gyfnod mewn swydd gyhoeddus sy'n haeddu sylw digonol gan y gwrthbleidiau a'r blaid sy'n llywodraethu yn ogystal, cyfnod ymrwymiad rhywun i wasanaeth cyhoeddus.
Ond mae'n iawn myfyrio ar y cyfleoedd a gollwyd hefyd, yn enwedig dros gyfnod estynedig o amser. Weithiau, yn hytrach nag edrych ar y materion mawr, rhaid ichi edrych ar y materion bach iawn a gweithio i fyny o'r materion bach i'r materion pwysig. Heddiw, er enghraifft, roeddwn yn nhref y Barri, lle y cafwyd ymgyrch egnïol ynglŷn â'r llosgydd a leolwyd yno, sydd wedi cael caniatâd cynllunio drwy'r broses arferol. Cytunodd Gweinidog yr amgylchedd, yn ôl ym mis Chwefror, i ystyried gwneud asesiad effaith amgylcheddol ar y llosgydd hwnnw. Gofynnais y cwestiwn i arweinydd y tŷ ddoe, a thua 300 diwrnod yn ddiweddarach, mae'r gymuned honno'n dal i aros am y penderfyniad hwnnw gan y Llywodraeth. Os ydych mewn Llywodraeth, mae gennych allu i wneud pethau. Mae gennych allu—fel y cyfeiriodd Mohammad Asghar ar dudalen flaen maniffesto'r Prif Weinidog, 'Amser i Arwain'—i arwain, a chael effaith gadarnhaol mewn cymunedau mewn gwirionedd. Mewn perthynas â'r gymuned arbennig honno, mae syrthni o ran gwneud y penderfyniad hwn yn ddrych o lawer o'r pethau mwy o faint y mae'r Prif Weinidog, ac yn wir ei Lywodraethau olynol, wedi methu eu cyflawni dros Gymru.
Ni allwch gerdded oddi wrth y tablau PISA olynol sydd wedi dangos, yn anffodus, nad ydym wedi cael y llwyddiant y mae pawb ohonom am ei weld ym maes addysg—tynnwch y wleidyddiaeth allan ohono; mae pawb ohonom am weld system addysg well. Nid yw'n fawr o werth dweud, 'Gallwn aros tan 2022 pan ddaw'r cwricwlwm newydd i mewn.' Beth am y genhedlaeth sy'n mynd drwy'r ysgolion ar hyn o bryd? Rwy'n dad i bedwar o blant. Un cyfle y maent yn ei gael ac rydych am i hwnnw fod y cyfle gorau posibl. Felly, beth a ddywedwn: 'Yr 20 mlynedd diwethaf—o, wel, mae'n ddrwg gennym am hynny, ond fe'i cawn yn iawn ar gyfer y genhedlaeth nesaf'?
Nid yw ffigurau rhyngwladol yn dweud celwydd. Wyddoch chi, byddai'n werth i'r blaid sy'n llywodraethu a'r meinciau sy'n llywodraethu fyfyrio ychydig ar ble mae pethau wedi mynd o chwith a ble y gallwn unioni pethau. Fi yw'r cyntaf i gydnabod bod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi sicrhau gwelliant mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad hon, ond nid oes fawr o werth mewn cael adeiladau newydd sbon os nad yw'r canlyniadau sy'n dod allan o'r adeiladau newydd sbon hynny'n cael eu hailadrodd yng nghyflawniadau ein pobl ifanc. Rwyf lawn mor uchelgeisiol â neb i weld ein pobl ifanc yn cyflawni hyd eithaf eu gallu yn eu bywydau, ond mae'n rhaid iddo fod ar y cerdyn sgorio y gallai'r Llywodraeth fod wedi gwneud yn well.
Os edrychwch ar yr economi dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'n ffaith bod gweithwyr Cymru yn mynd â llai o gyflog adref heddiw o'i gymharu â'u cymheiriaid yn yr Alban pan ddechreuasant yn 1999—£55 yr wythnos yn llai, mewn gwirionedd. Nawr, mae'r blaid sy'n llywodraethu yn sôn am gyni. Nid wyf wedi clywed awgrym amgen cydlynol yn cael ei gynnig ynglŷn â sut y gallem fod wedi glanhau'r llanastr a adawodd Gordon Brown ar ei ôl, a gofyniad benthyca sector cyhoeddus o £160 biliwn, a fyddai wedi cadw hyder y marchnadoedd fel na fyddem wedi gweld dirwasgiad mawr. Ond yr hyn a welais yw polisïau economaidd Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn arwain at gyflogau salach yn hytrach na chyflogau gwell mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n ffaith: ni yw'r economi sydd â'r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig. Mae honno'n ffaith. Ni allwch wadu hynny.
O ran y GIG, mae'n ffaith bod penderfyniad gwleidyddol wedi'i wneud yn 2011-12 i dorri gwariant iechyd yma yng Nghymru. Roedd hwnnw'n benderfyniad gwleidyddol a wnaed. Dyma'r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig, ac yn wir, y Prif Weinidog yw'r unig arweinydd Llywodraeth sydd wedi gwneud y penderfyniad ymwybodol hwnnw i dorri gwariant. A'r ddadl ar y pryd oedd bod angen i'r arian fynd i golofnau eraill i gefnogi gwasanaethau eraill, ac mae hynny'n iawn os mai dyna yw'r dewis gwleidyddol, ond y ffaith amdani yw bod y penderfyniad wedi'i wneud ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wynebu'r canlyniadau oherwydd hynny. Yn 2009, er enghraifft, roedd yr amser aros o 36 wythnos yn GIG Cymru yn sero—sero. Heddiw, mae'n 13,500 o bobl yn aros 36 wythnos neu ragor i gael triniaeth. Dyna'r mesur y mae pobl yn ei ddefnyddio i fesur llwyddiant y GIG, o ran pa mor amserol y gallant gael eu gweld pan fyddant yn mynd at feddyg i holi ynglŷn â salwch neu gyflwr. Ac ar y cerdyn sgorio, rhaid nodi hynny fel methiant.
Felly, rwy'n fwy na pharod i sefyll yma a chanmol gwasanaeth cyhoeddus y Prif Weinidog presennol—record sy'n haeddu ei chanmol—ond mae'r Llywodraethau olynol y mae wedi'u harwain wedi methu cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol a addawyd ar ddechrau datganoli a thrwy gyfnod y Llywodraethau y mae wedi'u harwain. Nawr, nid bai datganoli yw hynny, ond y dewisiadau gwleidyddol a wnaed, a gadewch inni fyfyrio ar hynny, oherwydd mae'r wythnos nesaf yn adeg ar gyfer myfyrio ac yn adeg i uno a newid y record fel y gallwn newid y canlyniadau. A dyna pam y gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron y prynhawn yma.