Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
O ran eich swyddogaeth yn y dyfodol, gwn fod hwn yn ddiwedd pennod, ond nid y llyfr. Rwyf ar ddeall hefyd efallai fod gan Mrs Jones rai syniadau i chi, ynghylch pa weithgareddau y gallech chi fod yn ymgymryd â nhw yn y dyfodol, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau.
Roeddwn i'n falch o fod yn bresennol yng nghyfarfod 28 Medi ac i siarad yng nghyfarfod cyhoeddus 'Dim Peilonau ar Ynys Môn' ym Mhorthaethwy, i drafod y cam nesaf, nawr bod y Grid Cenedlaethol wedi cyflwyno cais am ganiatâd datblygu i'r arolygiaeth gynllunio. Fel y dywedais, mae manteision o ran cost i'r cynigion ar gyfer peilonau, ond nid yw hynny'n tynnu oddi wrth y ddadl gyffredinol o blaid claddu ceblau mewn ardaloedd o harddwch naturiol aruthrol a helpu'r economi leol gymaint â phosibl. Fodd bynnag, mae hyn i gyd yn seiliedig ar Wylfa yn y bôn, a Wylfa Newydd yn y dyfodol. Pa ymgysylltiad neu drafodaeth y mae eich Llywodraeth wedi eu cael yn dilyn cyhoeddusrwydd ddoe yn nodi bod sïon erbyn hyn, ac y byddai bwrdd Hitachi yn cyfarfod yn Japan heddiw i drafod y mater hwn oherwydd pryderon ynghylch amcanestyniadau o gynnydd i gostau adeiladu yn y dyfodol?