Mawrth, 11 Rhagfyr 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni am y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r blaenoriaethau economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn darparu ar gyfer pobl ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53102
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddaraf gyda'r Grid Cenedlaethol am gysylltiad gogledd Cymru? OAQ53103
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi teuluoedd? OAQ53110
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53101
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau addysg yng Nghymru? OAQ53104
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu dull Llywodraeth Cymru o bennu targedau ar gyfer yr economi? OAQ53078
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer datblygu Maes Awyr Caerdydd? OAQ53108
A gaf i alw nawr ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad ymddiswyddo? Y Prif Weinidog.
Cwestiynau nawr i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil McEvoy.
Diolch, Llywydd. Rwy'n datgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd yng Nghaerdydd .
Y cwestiynau nesaf, felly, gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru—Llyr Gruffydd.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru? OAQ53067
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y caiff mesurau ansawdd aer lleol, fel parthau aer glân, eu hariannu? OAQ53084
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i fynd i'r afael â llygredd yn afonydd Cymru? OAQ53073
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth? OAQ53093
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gall newidiadau i reoliadau cynllunio helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53083
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynhyrchu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru? OAQ53096
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cadwraeth forol a bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ53085
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru? OAQ53080
Eitem 4 ar yr agenda yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, ac mae cwestiwn 1 gan Janet Finch-Saunders.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau y cyflwynir band eang cyflym iawn yn ehangach yn Aberconwy? OAQ53091
2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn ym Mhreseli Sir Benfro? OAQ53065
Trown yn awr at gwestiynnau'r llefarwyr. Yn gyntaf y prynhawn yma, Mohammad Asghar.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn cael triniaeth a chyfleoedd cyfartal? OAQ53090
4. Sut y bydd adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn helpu i wella canlyniadau ar gyfer menywod o Gymru a geir yn euog o droseddau? OAQ53097
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gysylltedd 5G yng Nghaerdydd? OAQ53095
6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd trawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Sir Benfro? OAQ53066
7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am rôl chwaraeon o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod? OAQ53094
Rydym yn symud ymlaen yn awr at eitem 5, sef y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Bydd eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y newyddion diweddaraf am y gofal ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael, yn cael ei gyhoeddi fel...
Mae eitem 7, datganiad gan yr un Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch diwygio gwasanaethau deintyddol, hefyd yn ddatganiad ysgrifenedig.
Felly symudwn at eitem 8, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: tuag at ddull gweithredu penodol o ran y system gosb yng Nghymru. Galwaf ar...
Eitem 9 ar yr agenda yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) Gorchymyn 2018, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i gynnig y cynnig, Mark Drakeford.
Eitem 10 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019, a galwaf ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd i gynnig y cynnig, Hannah Blythyn.
Rydym erbyn hyn wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio felly rydym nawr yn mynd i bleidleisio ar y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018. Galwaf am bleidlais...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer yr eiddo preswyl gwag hirdymor yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn dilyn COP24, cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn gwarchod bywyd gwyllt?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia