Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr iawn. Mi hoffwn i gymryd y cyfle yma i ddymuno'n dda i'r Prif Weinidog yn ei sesiwn holi olaf, ac i ddiolch am ei gwrteisi yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf yn ateb cwestiynau ar ran fy etholwyr i.
Roedd etholwraig o ardal Star, Gaerwen yn ei dagrau ar y ffôn efo fy swyddfa i ddoe, fel mae'n digwydd, yn teimlo ei bod hi o dan warchae o dan gynlluniau'r grid—dyna'r teimlad sydd yna yn Ynys Môn. Ac mae'r grid, wrth gwrs, yn dal, yn groes i ddymuniadau pobl yr ynys a'i chynrychiolwyr etholedig hi, am fwrw ymlaen efo codi rhes newydd o beilonau ar draws yr ynys. Ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol yma wedi pleidleisio yn erbyn cael peilonau ac o blaid tanddaearu fel mater o egwyddor. A wnewch chi ofyn i'ch swyddogion rŵan, yn y fforwm yma, fel un o'ch gweithredoedd olaf fel Prif Weinidog, i gysylltu ac ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio i annog gwrthod caniatáu y peilonau yma, a hefyd i ysgrifennu at Ofgem, fel rydwyf i wedi gwneud yr wythnos yma, i fynnu bod rhaid i'r grid roi ystyriaeth go iawn i roi eu gwifrau ar bont newydd dros y Fenai, yn hytrach na thyllu twnnel ar gost o bosib o £200 miliwn? Mi fyddai'n arbed arian i Lywodraeth Cymru drwy gael cyd-fuddsoddwr yn y bont, ac yn arbed arian i'r grid, a allai wedyn gael ei fuddsoddi mewn tanddaearu.