Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, ar hyn o bryd, beth rydym ni moyn sicrhau, wrth gwrs, yw bod yr adolygiad yn un sydd yn gyflym, sy'n annibynnol ac, wrth gwrs, un a fydd yn sicrhau sylfaen i'r llwyfan nesaf o weithredu. Mae pawb, wrth gwrs, wedi ymrwymo i sicrhau bod y fargen ei hunan yn llwyddiannus, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n erfyn, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fod yr adolygiad felly ar gael. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ei fod e'n rhywbeth sy'n gyflawn ond hefyd yn rhywbeth sydd ddim yn rhy araf.