Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i'n pobl ifanc. Rydym ni'n datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd, a fydd yn cynorthwyo gwelliant ysgolion ymhellach. Y cam nesaf, wrth gwrs, yw ystyried sut i gynorthwyo ein hysgolion sy'n peri'r pryder mwyaf ar gam cynnar, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn diweddaru'r aelodau yn y flwyddyn newydd ar y pwynt hwnnw.