Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Fel rydym ni newydd ei glywed, mae disgyblion sy'n mynychu hanner ysgolion uwchradd Cymru yn methu â chyrraedd eu llawn potensial erbyn iddyn nhw adael yr ysgol. Estyn sydd yn dweud hynny, er gwaethaf beth roeddech chi'n ei ddweud rŵan. Bum mlynedd yn ôl, fe wnaethoch chi gyfaddef bod Llywodraeth Cymru wedi esgeuluso addysg yn y gorffennol, ac fe gytunoch chi bryd hynny—ac rwy'n dyfynnu—eich bod chi wedi 'taken our eye off the ball'. Bum mlynedd ers ichi ddatgan hynny, a ydych chi'n siomedig gyda'r canlyniadau diweddar gan Estyn ac arafwch y cynnydd yn ein hysgolion uwchradd ni'n arbennig?