Cefnogi Teuluoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi mater Ymddiriedolaeth WAVE? Rwy'n cefnogi gwaith sefydliadau fel Ymddiriedolaeth WAVE. Wrth gwrs, maen nhw wedi ymrwymo i ddileu cam-drin plant. Fel llawer o gyrff trydydd sector eraill sy'n gweithredu ledled Cymru, mae dull  yr Ymddiriedolaeth yn ategu nifer o raglenni yr ydym ni'n eu rhedeg a'u datblygu ar hyn o bryd, er enghraifft Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Maen nhw, wrth gwrs, yn helpu rhieni i fabwysiadu arddulliau rhianta cadarnhaol ac i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal effeithiol i alluogi teuluoedd a'u plant i ffynnu a gwireddu eu potensial. Ond, wrth gwrs, yn anochel mewn Llywodraeth, mae'n hynod bwysig gweithio gyda phobl ar lawr gwlad, i gael yr arbenigedd hwnnw, a cheisio peidio ag ailadrodd neu ddisodli'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ond ategu'r gwaith y maen nhw'n ei wneud eisoes er mwyn, wrth gwrs, cael y canlyniadau gorau.