Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, mae hwnnw'n fater—mae'n fater i'r Llywodraeth nesaf. Dyma'r tro cyntaf yr wyf i wedi defnyddio'r ymadrodd yna, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ond, wrth gwrs, mae'n—. Yr anhawster yw ein bod ni'n gwybod bod llawer o raglenni yn cael eu darparu mewn ardaloedd, ond rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, y bydd teuluoedd mewn ardaloedd eraill nad ydyn nhw'n elwa ar yr un cynlluniau. Y rhan anodd fu nodi'r teuluoedd sydd efallai'n byw y tu allan i'r ardaloedd hynny fel eu bod yn gallu elwa. Rwy'n siŵr bod hwn yn rhywbeth a fydd yn cael sylw yn y misoedd i ddod.