Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud pan fydd gwleidyddion yn ymadael i dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd mai gair llednais am gael eu diswyddo ydyw. [Chwerthin.] Felly, gobeithio nad dyna'r achos eto heddiw.
Wrth gwrs, os edrychwn ni ar y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, rydym ni wedi buddsoddi dros £290 miliwn yn y rhaglen honno ers ei chyflwyno. Ei bwriad yw darparu lefel gydlynol o gymorth i deuluoedd ac, yn wir, i blant. Wrth gwrs, rydym ni'n ceisio gweithio gydag unrhyw sefydliad sy'n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru o rianta cadarnhaol, gan ein bod ni'n gwybod y gall hynny gyflawni'r canlyniadau gorau i blant ac i rieni.