Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
A gaf i ddweud, ynglŷn â'r Bil gofal plant, y nod yw sicrhau ei bod yn rhwyddach i bobl gael gwaith? Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, mai un o'r problemau mae pobl yn eu hwynebu yw'r ffaith bod gofal plant mor brid, so nod y cynllun yw sicrhau bod hynny yn cael ei ddelio ag e—bod gofal plant ar gael am ddim. Wrth gwrs, nod y rhaglen yw sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn i waith, so, felly, os yw pobl yn moyn mynd i mewn i waith, maen nhw'n gallu cael y cyfle hynny, a dyna pam mae'r cynllun ei hunan wedi cael ei 'craft-io' yn y ffordd mae e, er mwyn cael gwared â'r wal sydd o flaen pobl—y wal gyllidol—a sicrhau bod y wal yna yn mynd, a'u bod nhw'n gallu mynd i'r gwaith wedyn, a hefyd, wrth gwrs, wrth wneud hynny, leihau tlodi dros Gymru.