2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:22, 11 Rhagfyr 2018

Diolch, Llywydd. Yn nes ymlaen y prynhawn yma, byddaf i'n ysgrifennu at Ei Mawrhydi'r Frenhines i ymddiswyddo ar ôl naw mlynedd fel Prif Weinidog Cymru. Roedd hi yn fraint i olynu fy nghyfaill a’m mentor Rhodri Morgan, ac mae wedi bod yn fraint enfawr i wasanaethu Cymru yn y swydd ac i fod wrth y llyw mewn cyfnod heriol tu hwnt, cyfnod allweddol yn ein hanes hefyd fel cenedl. Wrth baratoi i ildio’r awenau, mae’r teimladau yn gymysg, wrth gwrs. Teimladau chwerwfelys, os yw hwnnw’n air yn y Gymraeg, i gyfieithu o’r Saesneg. Dyna’r teimlad sydd gyda fi, fel pawb arall sy’n gadael swydd a fu’n ganolog i’w bywyd, rwy’n siŵr. Tristwch wrth sefyll i lawr, ond ar y cyd â balchder am y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau.