Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
A gaf i ddiolch i Paul am beth ddywedodd e? Mae'n wir i ddweud bod yna lawer o bethau sy'n digwydd yn y Siambr hon sy'n digwydd ar lefel wleidyddol ac nid ar lefel bersonol.
A gaf i hefyd ddiolch i Adam? Roeddwn i yng nghanolfan y mileniwm ddydd Sul ac fe welais i lyfr yna a oedd wedi cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa: erthyglau ysgrifenedig Adam o 2001 hyd nawr. Mae amser gen i nawr i'w ddarllen e, felly efallai y gwnaf i wneud hynny. Ond ei wyneb e roeddwn i'n ei weld pan es i i mewn i'r ganolfan ei hunan.