2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:25, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifenyddion Parhaol sydd wedi gwasanaethu yn ystod fy amser i—dau Forgan ac un Jones—ac i'r gwasanaeth sifil? Oherwydd, wrth gwrs, gwleidyddion sy'n dyfeisio polisïau a syniadau ac, weithiau, gweision sifil sydd yn gorfod rhoi'r rheini ar waith. Nid y peth hawsaf yn y byd mo hyn bob amser, ac rwy'n diolch iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud. Rwy'n diolch i'r grwp Llafur a Phlaid Lafur Cymru am y cymorth y maen nhw wedi ei roi i mi dros y naw mlynedd diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i'm holynydd hefyd, ac afraid dweud hynny, wrth gwrs. I chi, Llywydd, wrth gwrs, nid yw bob amser yn hawdd rheoli'r Siambr hon, mae tipyn o golli tymer weithiau—credaf fod Adam a minnau'n euog o hynny, yn fwy na thebyg, a gwelsom ni hynny neithiwr yn y rhaglen ddogfen—[Torri ar draws.] Cwm Aman, wel, pen uchaf Cwm Aman—fe allem ni drafod pa ben o Gwm Aman sydd orau. Ac, wrth gwrs, holl Aelodau'r Cynulliad, oherwydd, fel y dywedais i, mae craffu yn rhan hynod bwysig o Lywodraeth. Pe na fyddai unrhyw waith craffu, yna i'r gwellt yr âi'r Llywodraeth a mynd yn aneffeithiol. Dyna pam mae craffu ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon yn bwysig i roi min ar Lywodraeth a gwneud yn siŵr bod Llywodraeth yn deall beth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud deddfwriaeth neu bolisi yn effeithiol. 

Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd—ergyd ddwbl cyllidebau llai ac effaith y toriadau i fudd-daliadau ar Gymru, ac yna, wrth gwrs, fater bychan Brexit. Er y byddai wedi bod yn anghyfrifol i unrhyw arweinydd anwybyddu'r materion hyn, rwyf i bob amser wedi siarad â'm Cabinet am bwysigrwydd cyflawni, er gwaethaf y materion amlwg hyn, a beth yw hwnnw? Wel, mae'n aros yr un peth: mae pobl yn awyddus i weld ysgolion da, swyddi da a GIG da, i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim; maen nhw'n awyddus i weld yfory gwell ar gyfer eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau. Felly, mae 118 o ysgolion newydd sbon yng Nghymru a 41 arall yn cael eu hadeiladu ac mae'r plant yn yr ysgolion hynny'n ennill mwy o'r graddau uchel. Yn y dyfodol, byddan nhw'n dysgu mwy eto, nid pynciau traddodiadol yn unig, ond sut i fod yn ddinasyddion da. Nid yw ein system addysg yn doredig oherwydd cystadleuaeth ddinistriol. Mae ein hysgolion a'n hathrawon yn gweithio gyda'i gilydd er budd y wlad i gyd.

Ac mae degau o filoedd o bobl yn fwy mewn gwaith heddiw, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mhort Talbot, Trostre, Llanwern a Shotton; mae degau o filoedd o bobl ifanc yn ymgymryd â phrentisiaethau sy'n newid bywyd; mae gennym ni'r mewnfuddsoddi mwyaf erioed; rhoddwyd cyfleoedd i 18,000 o bobl ifanc drwy ein rhaglen Twf Swyddi Cymru; mae 20,000 yn llai o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant. Mae mwy o bobl yn goroesi canser nag erioed o'r blaen; mae oedi wrth drosglwyddo gofal ar ei lefel isaf erioed; rydym wedi gwella cyfraddau goroesi oherwydd ein model ymateb ambiwlans newydd; ac mae'r rhain yn fwy na geiriau slic, maen nhw'n wirioneddau sylfaenol ynglŷn â'r modd y mae bywyd yn newid i bobl yng Nghymru. Oherwydd, beth mae ysgol newydd yn ei olygu? Nid cadw at ryw addewid wleidyddol yw hyn; mae'n golygu dyfodol gwell i blentyn. Boed hynny yn y Rhyl, Aberdâr neu yn nwyrain Caerdydd, mae plant 11 mlwydd oed yn cerdded i mewn i ysgolion newydd, llachar gyda chaeau chwarae'r drydedd genhedlaeth y tu allan a'r dechnoleg ddiweddaraf ar flaenau eu bysedd y tu mewn.

Nid yw buddsoddiad ychwanegol yn ein GIG yn golygu mwy o feddygon a nyrsys a dyna i gyd, mae hefyd yn golygu bod 700 o bobl wedi gallu cael gafael ar feddyginiaeth i atal HIV yn ein gwlad. Nid oes unrhyw un o'r bobl yng Nghymru sydd wedi cael proffylacsis cyn-gysylltiad wedi mynd ymlaen i gael HIV. Ac un o'r newidiadau rhyfeddol, ers i mi fod yn fy arddegau, ac yn y brifysgol, oedd trechu AIDS. Roedd cysgod y clefyd hwnnw'n frawychus yn ôl yn yr 1980au. Ni fyddai neb yn y cyfnod hwnnw erioed wedi credu y byddai ffordd, nid yn unig o ddileu AIDS, ond ei reoli. A thros y blynyddoedd, rydym wedi gweld newid mawr yn hynny o beth, ac mae hynny, i mi, wedi bod yn brawf anhygoel o'r ymchwil feddygol a gyflawnwyd.

Rydym wedi bod yn esiampl i'w hefelychu drwy'r byd: cyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau; diddymu ffioedd i gladdu plant; arwain y byd o ran ailgylchu; deddfu i amddiffyn tenantiaid ac atal digartrefedd; diddymu'r hawl i brynu yng Nghymru; ac rydym wedi diwygio'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac rydym wedi ailddiffinio'r iaith. Bu'r iaith, ar yn adeg, a bydd llawer ohonom yn cofio hynny, yn gocyn hitio gwleidyddol; nid felly nawr. Bellach mae iaith y mae pawb yn gwybod ei bod yn destun balchder cenedlaethol, p'un a ydyn nhw'n siarad Cymraeg neu beidio. Ac rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop ar gyfer menywod. Ni chyflawnwyd hynny eto, mae tipyn i'w wneud o hyd, a dyna nod y Llywodraeth nid yn unig ar hyn o bryd, ond nod y Llywodraeth yn y dyfodol.

Pan gawsom ein cythruddo fel cenedl, fe wnaethom sefyll yn gadarn. Yr ymosodiadau hynny ar ein GIG yng Nghymru, y llinell rhwng bywyd a marwolaeth, fe wnaethom ymateb gydag urddas, a chefnogi ein meddygon a'n nyrsys diwyd, nid yn unig gydag arian ychwanegol, ond gyda rhywbeth mwy gwerthfawr, a pharch yw hwnnw. Llunio polisi ar gyfer Cymru, nid ar gyfer y cyfryngau yn Llundain.

Mae ein hyder a'n hunan-gred fel Llywodraeth, fel gwlad, wedi datblygu hyd yn oed wrth wynebu degawd o gyni. Ond, wrth gwrs, nid oes unrhyw un o'r polisïau a'r cyflawniadau hyn yn bodoli ar wahân. Maen nhw i gyd gyda'i gilydd, yn fy nhŷb i, yn ategu'r hyn yr wyf bob amser yn ei ddeisyfu i Gymru, a hynny yw tegwch a gobaith. Yn union fel yr oedden nhw'n eiriau pwysig yng ngolwg fy rhieni i gartref, dyna oedd fy ngeiriau pwysig innau yn y Llywodraeth. A dyna fydd y geiriau, rwy'n credu, a fydd yn agos at galon yr unigolyn y byddaf yn pleidleisio drosto i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru. Mark yw hwnnw, i wneud hynny'n glir. [Chwerthin.] Pleser mawr i mi fu gweithio ochr yn ochr â chi, Mark, a holl Aelodau eraill y Cabinet, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi rhoi imi'r fath gefnogaeth ardderchog am gynifer o flynyddoedd. Mae Mark yn rhywun a all gydweddu egwyddorion a phragmatiaeth yn ddidrafferth, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd yn gwneud Prif Weinidog rhagorol i Gymru.

Fe'm hysbyswyd mai Geraint Thomas yw pencampwr Cymru o ran gollwng y microffon ar ôl iddo ennill y Tour de France, felly ni fyddaf i'n ceisio gorffen yn yr un ffordd, ac mae'n debyg na fyddai'n bosibl i mi beth bynnag. [Chwerthin.] Yn hytrach, hoffwn i ddiolch i bawb sydd yma, ond yn bwysicach i bobl Cymru, y cefais y fraint o'u gwasanaethu nhw. Pob ysgol neu ysbyty, pob busnes a welais, ar faes yr Eisteddfod, neu ar faes Sioe Frenhinol Cymru, wrth siopa allan gyda'r teulu, neu'n gwylio'r rygbi, ble bynnag y bûm, deuthum wyneb yn wyneb â charedigrwydd a chwrteisi, ac ni allaf byth ddiolch digon i chi.