Mesurau Ansawdd Aer Lleol

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:26, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich ateb. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod llygredd aer yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru ac mae wedi ei ddisgrifio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i weithredu i sicrhau bod cynghorau yn cyflwyno parthau aer glân os nad yw gweithredu lleol yn ddigonol, neu ddim yn ddigon amserol yn eich barn chi? Ac a wnaiff y Llywodraeth ailystyried y posibilrwydd o gyflwyno Deddf aer glân i Gymru os nad yw'r parthau aer glân lleol hyn yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym ni'n gobeithio eu cael? Dyma 2,000 o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn gyfan gwbl, ac rwy'n cefnogi'n gryf mynd ati i weld pa fath o weithredu sy'n digwydd yn lleol yn gyntaf, ond, yn y pen draw, mae rhai pethau mor bwysig fel bod angen deddfwriaeth genedlaethol.