Mesurau Ansawdd Aer Lleol

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:30, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei ymrwymiad parhaus yn y maes hwn. Rydych chi'n iawn: fe wnes i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi gyfarfod nid yn unig â chynrychiolwyr Tata, ond gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y cyfarfod hwn yn rhannol er mwyn edrych ar y mater a welsom ni dros yr haf, o ran, yn enwedig, y niwsans llwch, ond hefyd, sut y gallen nhw efallai weithio'n well i gyfathrebu â thrigolion lleol a meithrin y cysylltiadau hynny, ond hefyd, yr hyn y byddai angen ei wneud i liniaru effaith ansawdd aer gwael a gynhyrchir yn sgil allyriadau diwydiannol yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo yn amlwg. Rwyf eisiau adolygiad ar y cynllun gweithredu tymor byr ynglŷn â Phort Talbot a gwneud yn siŵr ei fod yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol, ac rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn awyddus i ymweld â Tata i weld yn uniongyrchol beth fyddai modd ei wneud o bosib, a beth yw'r heriau mwyaf, fel petai. Felly, rwyf yn hapus i wneud yn siŵr bod yr Aelod yn clywed y newyddion diweddaraf am hynny ac yn rhan o hynny hefyd.