Cadwraeth Forol a Bioamrywiaeth

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:46, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn hybu bioamrywiaeth forol drwy gyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol a chenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys cwblhau ein cyfraniad tuag at rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig sy'n ecolegol gydlynol a threfnus, yn unol â strategaeth forol y DU a'r Confensiwn er Diogelu Amgylchedd Morol Gogledd-ddwyrain yr Iwerydd.