Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch. Daeth yr ymgynghoriad ar wella a chydgrynhoi'r Gorchymyn datblygu a ganiateir i ben ar 28 Hydref. Mae swyddogion ar hyn o bryd yn dadansoddi'r ymatebion, ac rydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn 2019, gan ymestyn hawliau datblygu a ganiateir i gefnogi cyflwyno mannau trydanu ceir trydan, rhwydweithiau telathrebu'r genhedlaeth nesaf, a datblygu ynni adnewyddadwy.