Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Gwnaf, rwy'n fodlon iawn i wneud hynny. Cafwyd cynnydd da ar drawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Sir Benfro. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn band eang drwy raglen Cyflymu Cymru—. Roeddwn yn mynd i ddweud yn ddiweddar iawn, ond credaf mai mis Awst oedd hi mewn gwirionedd, cyfarfûm â'r Cynghorydd Paul Miller, sydd yn aelod cabinet dros ddatblygu economaidd a chymunedol, rwy'n credu; mae ganddo gyfrifoldeb am ddigidol yn Sir Benfro, a chawsom sgwrs dda iawn am y defnydd gorau o'r rhwydwaith prosiect cydgasglu band eang y sector cyhoeddus a rhywfaint o'r cyflwyno cyflym iawn o ran manteisio ar drawsnewid sector cyhoeddus yn Sir Benfro. Gwn fod y cyngor yn awyddus iawn i weithio gyda ni yn hynny o beth.