Yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau

Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:23, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi bod yn gyson iawn yn y cyfathrebu ynghylch pwysigrwydd cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwy'n falch o nodi y bydd y glasbrintiau drafft ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a throseddu benywaidd sydd wedi'u datblygu yn cyfrannu at sicrhau mwy o gydraddoldeb ar gyfer y rhai sydd o fewn, neu mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y glasbrint troseddau benywaidd drafft, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn siarad amdano ychydig yn ddiweddarach y prynhawn yma.