Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Ie, rwy'n ymwybodol iawn, iawn o'r ysgol yno; mae mewn rhan brydferth iawn o Sir Benfro, ac mae ganddi dafarn fach ddiddorol iawn gyda bar yn ei hystafell flaen rownd y gornel. Ond mae'n ynysig iawn, mae'n deg dweud, a rhan o'i harddwch yw ei bod wedi'i hynysu. Rydym yn ymwybodol iawn o hyn; rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r ysgol i weld beth y gellir ei ddatblygu er mwyn eu cael ar-lein. Ond rhaid imi ddweud, os ydych yn gwybod am gwm Gwaun, mae'n logistaidd yn broblematig iawn oherwydd nid yn unig y mae'n hardd iawn, mae'n serth ac yn goediog ac yn ynysig. Felly, mae a wnelo â'r topograffi harddaf ond y mwyaf anodd y gallech ei ddychmygu. Mae'r ysgol yn eithaf bach, felly, o ran y posibiliadau economaidd, mae'n broblem anodd ei datrys, ond rydym yn ymwybodol iawn ohoni ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r ysgol a'r cyngor i weld beth y gallwn ei wneud i gael yr ysgol ar-lein cyn gynted â phosibl. Er hynny, hon yw ysgol ddiwethaf yng Nghymru lle mae 'na broblem gyda hi, sy'n wych o beth, ond mae angen inni ddatrys y broblem.