5. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:40, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, ar 14 Chwefror, yn gynharach eleni, cynhigiais ddadl Aelodau unigol ynghylch mater y ffyrdd nad ydynt wedi eu mabwysiadu. Roedd yn ddadl a welodd gyfraniadau ar draws y Siambr a chafodd ei phasio yn unfrydol. Un o ganlyniadau'r cynnig oedd sefydlu tasglu, a wnaed o dan gylch gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth. Ar ôl cwestiwn ysgrifenedig dilynol gennyf fis Ebrill eleni, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn disgwyl i'r tasglu gwblhau ei waith yn gynnar yn 2019. O gofio bod y tasglu wedi ei gefnogi gan Aelodau ar draws y Siambr, mae llawer ohonom ni'n edrych ymlaen at weld yr argymhellion a fydd yn cael eu cynnig, ond, ychydig iawn y mae'r Aelodau wedi ei glywed o ran unrhyw gynnydd a wnaed hyd yn hyn. Tybed, felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i roi datganiad ysgrifenedig i'r holl Aelodau i amlinellu'r dyddiad cwblhau disgwyliedig, ac a fydd hefyd yn rhoi manylion unrhyw ymgynghoriadau a wnaed gan y tasglu a chrynodeb dros dro ynghylch ble mae'r tasglu arni erbyn hyn gyda'i waith. Diolch.