Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, mi hoffwn i wneud cais am ddatganiad ynglŷn â’r argyfwng ariannol sydd, rwy’n ofni, yn dyfnhau mewn addysg uwch yng Nghymru ar hyn o bryd, ac eglurhad o unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r sefyllfa ariannol honno. Yr wythnos yma, mae staff ym Mhrifysgol Bangor, sydd â phresenoldeb pwysig yn fy etholaeth i hefyd, yn dweud wrthyf i eu bod nhw wedi bod yn derbyn cyfathrebiad gan y brifysgol yn amlinellu achosion busnes ar gyfer toriadau pellach, yn cynnwys diswyddiadau. Mae yna ofn y gallai 60 o swyddi da fynd o’r brifysgol. Nid ydy’r sefyllfa, yn amlwg, ddim yn gynaliadwy. Mae safon yr addysg a’r ymchwil sy’n cael eu cynnig yn siŵr o ddioddef ar draws ein sector prifysgolion ni yn y pen draw, ac mi hoffwn i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y mae hi am ymateb.
Mi fyddwn ni hefyd yn dymuno clywed datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros gyllid ynglŷn â beth ddylai ddigwydd i’r tymor canol ynglŷn â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes stryd fawr. Mi ydym ni newydd gael datganiad yn ymestyn y cynllun rhyddhad hwnnw am gyfnod pellach. Rydw i'n croesawu hynny. Mae fy mhlaid i wedi bod yn frwd iawn, yn dod i gytundebau efo'r Llywodraeth ar gynlluniau ardrethi ac yn y blaen, ond nid ydw i'n gyfforddus â'r ffordd y mae'r rhaglen yn cael ei rolio o un flwyddyn i'r llall. Rydw i wedi bod yn trafod efo busnesau yn fy etholaeth i ynglŷn â phwysigrwydd y rhyddhad ardrethi yma i'r stryd fawr yn benodol. Mae Plaid Cymru yn Arfon wedi bod yn casglu enwau, llawer iawn o enwau, ar ddeiseb ac maen nhw yn sicr yn falch bod yr enwau ar y ddeiseb wedi cael dylanwad ar y Llywodraeth. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ynglŷn â beth y gallwn ni ei ddisgwyl yn y tymor canol. Oherwydd nid ydy blwyddyn i flwyddyn, er mor dda ydy unrhyw help ychwanegol, ddim yn ddigon da ar gyfer cynllunio hirdymor.